Bydd ysgolion yng Nghymru yn cael deuddydd ar ddechrau’r tymor ym mis Ionawr i baratoi at yr adeg pan fydd disgyblion yn dychwelyd.

Yn ôl yr Ysgrifennydd Addysg Jeremy Miles, bydd yr amser yn caniatáu i ysgolion asesu lefelau staffio ac i roi mesurau ar waith i gefnogi disgyblion i ddychwelyd.

Mae gofyn i ysgolion fanteisio ar y cyfle i sicrhau bod “cynlluniau cadarn” yn eu lle er mwyn symud i ddysgu o bell pe bai angen.

Gallai hynny fod ar gyfer dosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn unigol, neu o bosib yr ysgol gyfan, gan ddibynnu ar y pwysau ar gapasiti staffio.

Mae’r cyhoeddiad yn “cydnabod yr heriau y mae ysgolion a cholegau wedi’u hwynebu, a’r lefelau o ansicrwydd cyfredol ynghylch effaith Omicron”, meddai Jeremy Miles.

Fe allai rhai disgyblion ddychwelyd i’r ysgol yn hwyrach na’r disgwyl wedi’r Nadolig yn sgil hyn.

‘Lleihau’r tarfu’

Dylai ysgolion gynllunio ar gyfer senario ‘risg uchel iawn’, meddai Jeremy Miles, a bydd gofyn i bobol barhau i wisgo mygydau mewn ysgolion.

Byddan nhw hefyd yn cynnig profion ychwanegol, a bydd disgwyliad cryf i holl staff a disgyblion uwchradd wneud prawf llif unffordd deirgwaith yr wythnos.

Y flaenoriaeth yw “lleihau’r tarfu ar addysg”, meddai.

“Ein cyd-flaenoriaeth o hyd yw lleihau’r tarfu ar addysg, a sicrhau, lle bo hynny’n bosibl, bod dysgwyr yn parhau i dderbyn dysgu wyneb yn wyneb, yn ogystal ag amddiffyn staff, dysgwyr, ysgolion a chymunedau.

“Rwy’n gwybod fod tymor yr hydref wedi bod yn arbennig o heriol i staff mewn ysgolion, dysgwyr a’u teuluoedd, ac mae lefel y tarfu oherwydd capasiti staff wedi arwain at rai ysgolion yn gorfod gwneud y penderfyniad anodd i symud rhai dosbarthiadau/grwpiau blwyddyn i ddysgu o bell ar gyfer cyfnodau byr.

“Yn yr un modd, ar gyfer colegau, staff a dysgwyr, mae wedi bod tarfu parhaus i ddysgu o ganlyniad i’r pandemig, ond mae’r ymrwymiad i fodel dysgu cyfunol a’r ystod oedran o ddysgwyr mewn addysg bellach wedi golygu bod ysgolion wedi gallu ateb yn hyblyg i gynnig dysgu ar-lein lle mae wedi bod galw am hynny.

“I gydnabod yr heriau y mae ysgolion a cholegau wedi’u hwynebu, a’r lefelau o ansicrwydd cyfredol ynghylch effaith Omicron, rydw i heddiw wedi ysgrifennu at bob ysgol a choleg i ddarparu cymaint o eglurder nawr ag y gallaf i’w galluogi i gynllunio a pharatoi ar gyfer y dychweliad ym mis Ionawr.”

Bydd ysgolion yn Ynys Môn, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Conwy, Ceredigion a Wrecsam yn cau ynghynt na’r disgwyl (Dydd Gwener, Rhagfyr 17), a bydd dysgu yn symud ar-lein yr wythnos nesaf i geisio lleihau lledaeniad Covid-19, ac mae pryderon wedi cael eu codi ynghylch prinder athrawon cyn yr ŵyl.

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud na fydden nhw’n rhoi’r gorau i ddysgu wyneb yn wyneb yn gynharach na’r disgwyl.

Mae ysgolion holl awdurdodau lleol eraill Cymru, oni bai am Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Phowys, yn cau ddiwedd yr wythnos hon beth bynnag.

“Aberthu”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Laura Anne Jones: “Mae aelodau ieuengaf ein cymdeithas wedi aberthu cymaint yn ystod y pandemig er mwyn amddiffyn eraill, gydag effaith enfawr ar eu cyfleoedd bywyd nhw eu hunain.

“Felly, mae hi’n hanfodol ein bod ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ysgolion yn aros ar agor ar gapasiti arferol.

“Dydi addysg ddim yn rhywbeth y gellir ei aberthu, yn enwedig i blant agored i niwed sydd ond yn cael saib rhag camdriniaeth yn ystod amser i ffwrdd o’r cartref.

“Mae yna bryderon gwirioneddol dros argaeledd y gweithlu pe bai ton sylweddol arall yn taro’r wlad, a dyna pam y dylai blaenoriaeth ac egni’r llywodraeth fynd tuag at ddarparu brechlynnau atgyfnerthu mor sydyn â phosib.”