Mae cefnogaeth y gymuned amaeth at y Blaid Geidwadol wedi gostwng yn sylweddol yn y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl arolwg newydd.
Mae canlyniadau’r ymchwil gan gylchgrawn amaeth Farmers Weekly yn dangos bod cefnogaeth gan ffermwyr ledled Prydain i’r Torïaid wedi disgyn o 72% yn 2020 i ddim ond 57% eleni.
Mae’n debyg bod apêl y Prif Weinidog Boris Johnson hefyd wedi dirywio ymhlith ffermwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chyfres o ddigwyddiadau a sylwadau dadleuol yn ystod y cyfnod hwnnw.
Ar y llaw arall, roedd cefnogaeth ffermwyr i Lafur a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan wedi gweld cynnydd eleni – gyda phlaid Syr Keir Starmer yn codi o 10% i 15% yn yr arolwg, a phlaid Syr Ed Davey yn codi o 9% i 17%.
‘Colli ffydd’
Mae Chris Curtis, uwch ymchwilydd gydag asiantaeth arolygu Opinium, yn dweud bod y gogwydd eleni yn adlewyrchiad o’r darlun cenedlaethol y tu hwnt i’r gymuned amaeth.
Mae’r Blaid Lafur wedi perfformio’n well yn y polau na’r Ceidwadwyr yn gyson yn yr wythnosau diwethaf – mwy na thebyg mai un rheswm yw’r newyddion am bartïon Nadolig yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.
“Mewn gwirionedd, mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn colli cefnogaeth ers mis Mai,” meddai Chris Curtis wrth gylchgrawn Farmers Weekly.
“Hynny oherwydd diffyg ymddiriedaeth yn y ffordd maen nhw’n delio â’r economi a theimladau siomedig am Boris Johnson.
“Mae’r sgandalau dros yr wythnosau diwethaf yn golygu bod llawer o etholwyr wedi colli ffydd yn y Ceidwadwyr.”
Ychwanega y bydd hyn yn destun pryder i’r Ceidwadwyr a bod y bleidlais cefn gwlad o bwys.
“Mae llawer o’r seddi ymylol a fydd ar gael yn yr etholiad nesaf un ai yn rhai cefn gwlad, neu ag elfen wledig arwyddocaol yn perthyn iddyn nhw,” meddai.
“Hefyd, mae ffermio yn un o’r sectorau uchaf eu parch mewn cymdeithas, ac os yw ffermwyr yn honni bod y llywodraeth yn eu gadael nhw i lawr, yna byddai hynny yn difrodi apêl y Ceidwadwyr i’r cyhoedd ehangach.”
Ffermwyr ‘wedi cael llond bol’
Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, fod y Ceidwadwyr wedi “bradychu” cymunedau gwledig yng Nghymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
“Mae ein ffermwyr ni wedi treulio cenedlaethau yn tyfu bwyd ac yn rheoli ein cefn gwlad,” meddai.
“Maen nhw’n gynghreiriaid hanfodol yn y frwydr i daclo’r argyfwng hinsawdd ac adfer natur, gan gynhyrchu bwyd o safon yn y cyfamser.
“Er hynny, mae’r Llywodraeth Geidwadol dro ar ôl tro yn anwybyddu ein ffermwyr, ac mewn sawl achos, yn gwneud bywyd yn anoddach iddyn nhw.
“Boed hynny yn arwyddo cytundebau masnach heb ymgynghori na gwrando ar bryderon ffermwyr Cymreig, neu’n methu â datrys prinder swyddi neu broblemau â’r cytundeb milfeddygol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
“Yn syml, dydyn nhw ddim yn gwrando ar gymunedau gwledig. Mae ffermwyr ledled y Deyrnas Unedig a Chymru wedi cael llond bol o gael eu cymryd yn ganiataol gan y Blaid Geidwadol tra eu bod nhw’n eu bradychu nhw gyda chytundebau masnach i elwa bancwyr yn y ddinas.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Blaid Geidwadol am ymateb.