Mae Syr Keir Starmer wedi bod yn “dawel” yn sgil y cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llafur, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Wrth siarad ar bodlediad ITV Cymru The New Normal gydag Adrian Masters, soniodd Adam Price am ddiffyg arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn San Steffan o ran y cytundeb cydweithio rhwng y ddwy blaid.
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru fod Syr Keir Starmer “yn gyrru’r Blaid Lafur i’r dde” yn San Steffan tra bod y cytundeb Llafur-Plaid yn gwthio’r “Llywodraeth Lafur yng Nghymru i’r gwrthwyneb”.
Mae’n rhagweld, pe bai Llywodraeth Lafur yn San Steffan, y bydd hi’n llywodraeth “Blairite” gan fabwysiadu agenda “neo-rhyddfrydol”.
“Dydyn ni erioed wedi pleidleisio dros fwyafrif o ASau Ceidwadol yn San Steffan ond rydyn ni wedi cael llywodraeth Geidwadol ers dros ddwy ran o dair o’r amser hwnnw dwi’n credu,” meddai.
“Dyna’r diffyg democrataidd yr ydym wedi’i wynebu ers dros ganrif a hanner, ac mae dau ateb posibl i hynny,” meddai.
“Un peth yw annibyniaeth, a thrwy hynny y byddem yn cael y math o lywodraeth a’r polisïau yn seiliedig ar y gwerthoedd sy’n sylweddol wahanol yng Nghymru, ac sy’n agosach, mae’n debyg, at y gwledydd democrataidd cymdeithasol hynny yng ngogledd Sgandinafia.”
‘Ansicr’
Mewn cyfweliad â chylchgrawn Golwg fis diwethaf, dywedodd Adam Price fod y cytundeb rhwng Llafur a Phlaid sy’n ymestyn ar draws 46 o feysydd polisi yn rhaglen radical, sosialaidd.
“Hyd yn oed nawr gyda’r holl broblemau ynghylch pethau fel Peppa Pig, dydyn ni ddim yn gweld yr arweiniad sylweddol [mewn arolygon barn] y byddech chi’n disgwyl ar y pwynt yma,” meddai.
“Felly, mae’n edrych yn ansicr y bydd yna Lywodraeth Lafur yn cael ei hethol, ac edrych ar Keir Starmer a’r modd mae’n gyrru’r Blaid Lafur i’r dde, chi’n gwybod, i’r canol ac i adain dde ei blaid.
“Yn amlwg mae yna newidiadau wedi bod i Gabinet yr Wrthblaid ac ati ac mae wedi bod yn dawel iawn am gytundeb cydweithredu Plaid Cymru onid yw e, ac mae’n debyg fod hynny wedi gyrru’r Blaid Lafur a’r llywodraeth Lafur yng Nghymru i’r cyfeiriad arall.”
Ond yn ôl Adam Price, dydy e ddim yn poeni am yr hyn mae Keir Starmer yn meddwl am y cytundeb gan ddweud “nad oes yn sicr angen ei ganiatâd ym Mhlaid Cymru”.
‘Sefyllfa eithaf anobeithiol’
“Os mai eich gobaith yw gweld Keir yn cael ei ethol, mae hynny’n sefyllfa anobeithiol i fod ynddi,” meddai wedyn.
Mae’n cwestiynu y budd a ddeuai pe bai Keir Starmer yn cael ei ethol gan mai dim ond Llywodraeth Lafur “Blairite” a fydd yn methu “[m]ynd i’r afael â’r problemau sylfaenol, ac yn ei hanfod yn croesawu rhyw fath o agenda gwleidyddol neo-ryddfrydol”.
“Wel, ni fydd hynny’n gwneud dim i ddatrys ein problemau mewn gwirionedd, tra bod yr hyn sydd gennym yn y cytundeb cydweithio yn newid sylweddol iawn tuag at raglen radical o ran yr argyfwng tai, o ran ymestyn cyffredinolrwydd mewn meysydd o wasanaethau cyhoeddus allweddol.
“Dydyn ni ddim yn gweld unrhyw beth tebyg i’r meddylfryd radical yna gan y Blaid Lafur yn San Steffan.”