Fe ddaeth ffyddloniaid Plaid Cymru ynghyd dros y penwythnos i roi eu sêl bendith i’r cytundeb cydweithio gyda Llafur.

A’r wythnos hon dros goffi ar gyrion y brifddinas, ymhell o’r camerâu a sŵn y siambr, fe soniodd Adam Price wrth gylchgrawn Golwg am ffrwyth llafur y trafod a’r bargeinio a fu er mwyn llunio pennod newydd yn hanes ei blaid, a Chymru.

Ac er i’r gŵr 53 oed fod ynghlwm wrth ei ddyletswyddau tadol, doedd e byth yn bell o’r bwrdd trafod.

I’r arweinydd a ddaeth yn dad am yr ail dro dros yr haf, bu’r nosweithiau dros y misoedd diwethaf yn rhai di-gwsg am sawl rheswm; o newid cewynnau, i daro cytundebau gyda’r Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Mae’n debyg mai’r sosialydd o Sir Gâr yw’r dyn cyntaf sy’n arwain plaid wleidyddol yng Nghymru i gymryd cyfnod o absenoldeb o’r gwaith i fod gyda babi newydd.

“Roedd e’n wych o beth ar lefel bersonol,” meddai Adam Price wrth gylchgrawn Golwg.

“Roeddwn i’n cadw golwg ac yn cyfrannu’n gyson i gynnydd y trafodaethau, os nad yn ddyddiol, tra hefyd yn treulio amser gyda’r teulu.

“Roedd modd imi gael cyfarfodydd yn gynnar iawn yn y bore, ac wrth gwrs, ar ôl i Senena gael ei geni roeddwn yn dal i fyny drwy’r nos beth bynnag, felly roedd yn gyfle i ddarllen e-byst a chadw bys ar bwls pethe.”

Fe ddechreuodd y trafodaethau wedi canlyniad siomedig etholiad fis Mai i Blaid Cymru, ond prin iawn oedd y sïon am gydweithio bryd hynny.

Wrth gymryd llwnc o’i baned am ychydig o nerth wedi penwythnos o drafod a darbwyllo, mae Adam Price yn rhyfeddu at sut y cadwyd y trafodaethau yn gyfrinachol am gyhyd.

“Maen nhw’n dweud nad ydy’r Cymry yn medru cadw cyfrinach, ond mae Plaid Cymru wedi profi hynny’n anghywir dros y chwe mis diwethaf,” meddai.

“Mae unrhyw ymgyrch etholiad yn ddwys iawn a beth bynnag mae pobl yn teimlo ynglŷn â’r ymgyrch, alla i ddweud gydag arddeliad y gwnes i roi cant y cant,” meddai yn cyfeirio at etholiad fis Mai pan enillodd y Blaid 13 sedd yn unig ar noson weddol siomedig.

“Mae camgymeriadau yn cael eu gwneud mewn unrhyw ymgyrch etholiadol, a chymeraf i lawn cyfrifoldeb dros hynny,” meddai Adam Price.

“Ond wrth ddod mas o’r etholiad, roedd gofyn imi ddod dros y siom a rhywfaint o iselder gwleidyddol.

“Penderfynais godi fy hun nôl lan ac edrych ar ffyrdd eraill o wireddu’r hyn roeddwn am weld [ar gyfer] Cymru, yn hytrach na meddwl: ‘Sut ydw i’n gallu gwella canfyddiad pobl eraill ohonof i?’”

Gydag Adam Price wedi ceisio creu’r ddelwedd yn yr etholiad fis Mai ohono’i hun yn ddarpar Brif Weinidog Cymru, bellach mae yna gryn drafod bod ffawd yr arweinydd yn dibynnu ar lwyddiant y cytundeb newydd gyda Llafur.

“Nid ffawd Adam Price sy’n gyrru Adam Price,” meddai yn dilyn anadl dwfn.

“Ydy, mae’n fraint o’r mwyaf i fod yn arweinydd ac rwy’n defnyddio fy nylanwad er budd. A dyna dw i wedi ceisio gwneud dros y chwe mis diwethaf.”

 “Doedd clymblaid erioed dan ystyriaeth”

Fe bleidleisiodd 94% o aelodau Plaid Cymru dros y cytundeb gyda Llafur, sy’n golygu y bydd yn cydweithio â Llywodraeth Cymru ar 46 o feysydd polisi dros y tair blynedd nesaf.

Nid clymblaid sydd dan sylw ac felly ni fydd unrhyw weinidogion na dirprwy weinidogion gan y Blaid, ond yn hytrach fe fydd ganddi ymgynghorwyr o amgylch y bwrdd trafod.

“Doedd clymblaid erioed dan ystyriaeth,” meddai Adam Price.

“A fyddai hynny wedi ychwanegu unrhyw beth? Dydw i ddim yn credu. Mi fyddai’r pris ar gyfer hynny wedi bod yn sylweddol i’w dalu.

“Fe fydden ni wedi colli ein safle fel gwrthblaid ac fe fyddem yn rhwym i gydgyfrifoldeb ar draws pob dim, gan gynnwys rhai pethau sydd ddim yn y cytundeb.”

Bu Plaid Cymru yn rhan o glymblaid Cymru’n Un rhwng 2007-11 gydag Ieuan Wyn Jones yn Ddirprwy Brif Weinidog, ond nid cynnau tân ar hen aelwyd trwy glymbleidio yw’r peth gorau i’r Blaid y tro hwn, yn ôl Adam Price.

“O berspectif Plaid Cymru, ac os ydyn ni am ofyn y cwestiwn am glymblaid trwy lygaid y Blaid, mae fframwaith y cytundeb yma yn rhoi’r gorau o ddau fyd i ni,” meddai.

“Rydyn ni wedi cael y blaenoriaethau polisi ar raddfa fawr – mae’n gytundeb cynhwysfawr iawn – gan gadw ein hawl i graffu a beirniadu ac yn y blaen.”

“Blaendal ar Annibyniaeth”?

Gydag Adam Price yn wleidydd sy’n cael ei ystyried yn Fab Darogan gan ei gefnogwyr, mae’r tân yn ei fol dros annibyniaeth yn parhau i losgi.

Ond gyda’i gyfaill newydd, Mark Drakeford, â’i fryd ar ddiwygio’r Deyrnas Unedig yn hytrach na rhyddid lwyr i Gymru, sut yn union mae’r cytundeb yn “flaendal ar annibyniaeth”?

“Yn sgil radicaliaeth y cytundeb hwn fe fydd Cymru’n edrych yn wahanol iawn ymhen ychydig flynyddoedd, gyda Chymru’n torri cwys ei hunan ar raddfa lawer mwy pellgyrhaeddol,” meddai.

“Ie, mae’r Senedd wedi cyflawni pethau digon da a chlodwiw fel y dreth ar fagiau plastig. Ond heb wir greu’r dŵr coch clir, neu’r dŵr gwyrdd clir os mynnwch chi.

“Maes o law fe fydd Cymru yn edrych yn wahanol iawn i Loegr. Bydd Cymru’n wlad a fydd yn edrych yn debycach i rai o wledydd y Llychlyn gan fynd ar gledrau gwahanol.

“Mi fyddai hyn yn arwain at bobl yn dechrau dychmygu Cymru, yn Gymru annibynnol ar y raddfa fawr.

“Plannu hedyn drwy newid realiti bywydau pobl [yw’r nod], ac yn sgil hynny fe fydd meddylfryd a chanfyddiad yn dilyn.

“Mae rhaid cael bach o farddoniaeth yn y pethau yma weithiau, a dyna pam dw i’n sôn am hau’r hedyn o dan yr eira.”

Tai Haf

Yn ôl Plaid Cymru, un o’u campau mawr yw sicrhau prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd ynghyd â’r addewid o greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol Unedig.

“Heb os mae hon yn rhaglen radicalaidd, sosialaidd yn nhraddodiad gorau’r traddodiad radical Cymreig,” meddai Adam Price.

“Rwy’n teimlo’n hynod falch dros brydau ysgol ynghyd â’r llu o fesurau eraill sydd wedi eu mabwysiadu yn y ddêl hon.”

Agwedd arall mae’r cytundeb yn ceisio mynd i’r afael â hi yw’r pwnc llosg ail gartrefi, gyda’r cytundeb yn barod yn edrych ar y posibilrwydd o roi’r grym i gynghorau gyfyngu ar ail gartrefi a gosod llety gwyliau’r flwyddyn nesaf.

“Er gwaetha’r ffaith iddo fod yn broblem ymhell dros 50 mlynedd o ran brwydr mudiadau iaith, dyma’r unig faes ble rydyn ni heb gael unrhyw shifft polisi arwyddocaol,” meddai Adam Price.

“Pam? Oherwydd ei fod yn ymwneud â grym y farchnad a’r neo-ryddfrydiaeth.

“Hynny yw, yn hanesyddol mae gwleidyddion wedi bod yn gyndyn ar draws y byd gorllewinol i ymyrryd yn y farchnad mewn ffordd mor sylfaenol.

“Ond pan mae’n cael effaith mor andwyol ar ein cymunedau, mae’n rhaid i ni.

“Wrth gwrs, fe fydd hyn yn cael effaith ar hawliau eiddo pobl, ond mae hynny’n wir yn gyffredinol.

“Mae system drethiannol gyda ni sy’n gwrthbwyso hawliau unigolion yn erbyn budd ehangach y gymdeithas.”

Ond mae Adam Price am bwysleisio na all y Blaid gytuno ar bopeth gyda’r Llywodraeth.

Er enghraifft, mae’r Blaid – ynghyd â’r Ceidwadwyr – yn galw am Ymchwiliad Covid-19 Annibynnol i Gymru. Mae Mark Drakeford yn eu hanwybyddu ac yn hapus i Gymru fod yn rhan o ymchwiliad.

“Dydw i ddim yn siŵr os ydyw e’n creu tensiwn, ond dyma natur y cytundeb, mae’n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni gyd ymgynefino ag ef… gyda’r math hyn o gydweithio.”

 

Senedd fwy – “mae’n mynd i ddigwydd”

 Yn ystod ei araith i’r gynhadledd dros y penwythnos fe soniodd Adam Price am “ailadeiladu’r genedl” gan edrych tuag at ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Fe fydd cefnogaeth hefyd i gynyddu maint y Senedd o 60 i “80 neu 100 aelod”, diwygio’r broses ethol aelodau, a’i gwneud yn gyfraith bod angen ethol yr un faint o ddynion a menywod.

“Mae’r agenda ailadeiladu’r genedl yn bwysig o ran ein democratiaeth, a dydw i ddim yn meddwl y byddai diwygio’r Senedd yn gallu digwydd oni bai am y cytundeb yma,” meddai.

“Bydd hyn nawr yn digwydd gyda dau draean o’r Senedd yn dod at ei gilydd gyda’r nod o wneud i hynny ddigwydd. Mae’n mynd i ddigwydd.

“Nid yn unig gwneud y Senedd yn fwy ond ei gwneud hi’n fwy cyfoes ac yn un sy’n edrych yn fwy [cynrychioliadol] o’r Gymru sydd ohoni heddiw, ac yn fwy democrataidd.

“Ond yn bennaf, senedd sy’n edrych fel annibynnol, rydd.”

Bydd y cytundeb hefyd yn ceisio grymuso democratiaeth drwy gryfhau’r Wasg yng Nghymru ar lefel leol a chenedlaethol, ac yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Mae sôn am greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu i Gymru er mwyn ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg, yn enwedig yn ddigidol.

“Bydd hyn yn symud darlledu i’r cam nesaf gan gefnogi datganoli darlledu yn llawn,” meddai Adam Price, “a diolch i’r ymgyrchwyr lu sydd wedi bod yn gwneud yr achos yna ers blynyddoedd.”

Niweidio’r Blaid?

Er i aelodau Plaid Cymru gefnogi’r bartneriaeth newydd gyda Llafur bron yn unfrydol, mae yna gryn bryder am effaith bosibl y cytundeb yn y blychau pleidleisio.

Yr wythnos ddiwethaf fe ddywedodd y sylwebydd gwleidyddol Gareth Hughes wrth gylchgrawn Golwg y gallai’r frwydr etholiadol nesaf fod yn anodd i’r Blaid.

A hynny nid yn unig ar lefel Seneddol, ond hefyd ar lefel leol – yn enwedig yn yr ardaloedd ble mae’r Blaid yn mynd yn benben â Llafur yng Nghymoedd y De.

Ond mae gan Adam Price neges glir i’r aelodau a chefnogwyr ar lawr gwlad sy’n curo drysau o etholiad i etholiad.

“I’r 230,000 o bobl a wnaeth ein cefnogi ni yn ystod etholiad y Senedd, dyma beth rydyn ni wedi llwyddo i’w gyflawni gyda’ch cefnogaeth chi.

“Mae hynny’n rhywbeth allwn ni gyd fod yn falch ohono. Mae 200,000 o blant yn mynd i gael pryd am ddim yn yr ysgol gynradd oherwydd y gefnogaeth yna.”

Ond o ran strategaeth wleidyddol y Blaid wrth edrych tua’r dyfodol, mae’n mynnu bod mwy o syniadau ar y gorwel.

“Rwyf wedi gwneud tipyn o waith meddwl – rhwng newid cewynnau a thros yr haf – ynglŷn â’r tirwedd gwleidyddol, a byddaf gyda mwy i’w ddweud am hynny yn y flwyddyn newydd,” meddai.

Ond er i’r rhan fwyaf yn rhengoedd y Blaid ganu clodydd Adam Price, ni fu popeth yn fêl i gyd iddo.

Eisoes mae wedi dod i’r amlwg nad yw’r Arweinydd presennol a’r cyn-Arweinydd, Leanne Wood a gollodd ei sedd yn y Rhondda yn yr etholiad fis Mai, wedi bod yn “ffrindiau” ers peth amser.

Fe adawodd cyn-Gomisiynydd Heddlu Gogledd Cymru, Arfon Jones, y Blaid ym mis Hydref gan nad oedd yn teimlo mai Adam Price oedd y person gorau i arwain.

Ond wrth ymateb i sylwadau Leanne Wood a beirniadaeth Arfon Jones, nid yw Adam Price i weld yn hidio rhyw lawer.

“Natur bod yn arweinydd yw y bydd pobl yn gwneud asesiadau gwahanol ac mae hynny’n rhan o’r swydd,” meddai.

“Rhydd i bawb ei farn, a rhydd i bobl wneud eu hasesiad ohonof fel y mynnent.”