Mae llyfrau i blant sydd wedi eu personoli yn gynyddol boblogaidd, ac mae cwmni o’r Swistir yn cynnig un yn Gymraeg…

Am y tro cyntaf erioed, fe allwch chi archebu llyfr Cymraeg wedi ei bersonoli yn arbennig i blentyn yn anrheg y Nadolig yma.

Mae’r cyhoeddwr o’r Swistir, Librio, wedi penderfynu cynnig rhai o’u llyfrau mewn ieithoedd llai, fel y Gymraeg a Lwcsembwrgeg, yn ogystal â’u cynnig mewn ieithoedd fel Saesneg, Sbaeneg ac Almaeneg.