Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi y bydd cyfraddau llog yn codi i 0.25% er gwaethaf pryderon am effaith yr amrywiolyn Omicron ar yr economi.

Bwriad y Banc yw cynyddu’r gyfradd o 0.1% – sef yr isaf y mae wedi bod erioed – fel ymgais i gyfyngu’r cynnydd aruthrol mewn chwyddiant yn ddiweddar.

Fe bleidleisiodd aelodau’r Pwyllgor Polisi Ariannol (MPC) o wyth i un o blaid codi’r cyfraddau, yn dilyn pwysau sylweddol i reoli costau byw cynyddol.

Roedd ffigyrau’n dangos yr wythnos hon bod y Mynegai Prisiau Defnyddwyr, sy’n mesur chwyddiant, wedi codi i 5.1%, sef y lefel uchaf ers dros ddegawd.

‘Achos cryf o blaid tynhau polisi ariannol’

Fe nododd Banc Lloegr y gall chwyddiant gyrraedd uchafbwynt o 6% ym mis Ebrill 2022.

“Fe wnaeth mwyafrif aelodau’r pwyllgor bennu bod hi’n deg gwneud cynnydd bach ac ar unwaith yn y cyfraddau llog,” meddai’r Banc.

“Roedd y penderfyniad yn y cyfarfod hwn yn gytbwys iawn oherwydd yr ansicrwydd ynghylch datblygiadau Covid.

“Roedd hi’n werth, i raddau, disgwyl am wybodaeth bellach am ba mor debygol oedd Omicron am dorri’r amddiffyniad mae’r brechlynnau presennol yn eu rhoi ac ar effeithiau economaidd cychwynnol y don newydd.

“Er hynny, roedd achos cryf o blaid tynhau polisi ariannol nawr, o ystyried cryfder y pwysau sy’n deillio o chwyddiant ar hyn o bryd ac er mwyn cynnal sefydlogrwydd prisiau yn y dyfodol agos.”

Roedd cyfraddau llog wedi bod yn 0.1% ers mis Mawrth y llynedd, pan geisiodd y Banc roi hwb i’r economi yn nyddiau cynnar y pandemig.

Dyma’r tro cyntaf i’r gyfradd gynyddu ers Awst 2018, a dim ond y trydydd gwaith ers yr argyfwng ariannol yn 2007 a 2008.