Mae cabinet Llywodraeth Cymru wedi bod yn cwrdd i drafod mesurau newydd cyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yfory (Rhagfyr 17).

Daw hyn yn sgil pryder cynyddol am yr amrywiolyn Omicron, amrywiolyn diweddaraf Covid-19.

Mae disgwyl i weinidogion gwrdd yn hwyrach heddiw (Rhagfyr 16) i drafod y cyfyngiadau’n derfynol.

Byddant yn ystyried naill ai cyflwyno mesurau cyfreithiol neu ffocysu ar gyngor – er mwyn lleihau cyswllt cymdeithasol – neu gymysged o’r ddau.

Ysgolion

Eisoes mae’r Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, wedi cyhoeddi y bydd ysgolion yn cael deuddydd ar ddechrau’r tymor ym mis Ionawr i baratoi at yr adeg pan fydd disgyblion yn dychwelyd.

Bydd yr amser yn caniatáu i ysgolion asesu lefelau staffio ac i roi mesurau ar waith i gefnogi disgyblion i ddychwelyd.

Mae gofyn i ysgolion fanteisio ar y cyfle i sicrhau bod “cynlluniau cadarn” yn eu lle er mwyn symud i ddysgu o bell pe bai angen.

Gallai hynny fod ar gyfer dosbarthiadau neu grwpiau blwyddyn unigol, neu o bosib yr ysgol gyfan, gan ddibynnu ar y pwysau ar gapasiti staffio.

Prif Swyddog Meddygol

Yn y cyfamser, wrth i Weinidogion ystyried y camau nesaf, mae Prif Swyddog Meddygol Cymru – Dr Frank Atherton – wedi bod yn trafod sefyllfa Omicron yng Nghymru.

Mae 33 o achosion newydd o Omicron wedi’u cofnodi yng Nghymru heddiw, gan fynd â’r cyfanswm i 95

Dywed y Prif Swyddog Meddygol fod Cymru “ychydig ddyddiau” y tu ôl i rai mannau ym Mhrydain o ran y cynnydd mewn achosion.

Nododd ei bryder am ledaeniad yr amrywiolyn – dywedodd nad oedd erioed wedi gweld y math yma o heintio yn y gymuned – a soniodd am bwysigrwydd y brechlyn atgyfnerthu sydd, meddai, yn ymddangos yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolyn.

Fodd bynnag, dydy Cymru heb nodi unrhyw farwolaethau newydd sy’n gysylltiedig â Covid-19 heddiw – a hynny am y tro cyntaf ers 24 Awst 2020.

Rhoi deuddydd i ysgolion Cymru gynllunio wedi’r Nadolig

Bydd yr amser yn caniatáu i ysgolion asesu lefelau staffio ac i roi mesurau ar waith i gefnogi disgyblion i ddychwelyd