Bydd yr Unol Daleithiau yn gosod sancsiynau ar nifer o gwmnïau a chyrff cyhoeddus o Tsieina yn sgil camdriniaethau o hawliau dynol.

Mae eu llywodraeth wedi eu cyhuddo o gyflawni troseddau annynol yn erbyn Wigwriaid Mwslimaidd sy’n byw yn nhalaith Xinjiang yng ngorllewin y wlad.

Daeth corff annibynnol y Tribiwnlys Wigwraidd i gasgliad bod Tsieina wedi cyflawni hil-laddiad ar Wigwriaid, yn dilyn ymchwiliad diweddar.

Bydd Adran Fasnach yr Unol Daleithiau yn targedu’r diwydiant ymchwilio meddygol yn benodol, sydd wedi eu cyhuddo o ddefnyddio biotechnoleg i gefnogi lluoedd arfog y wlad.

Mae hynny’n golygu bydd cwmnïau o America yn cael eu gwahardd rhag gwerthu cydrannau i gwmnïau penodol heb drwydded.

‘Gormesu’

Rhoddodd Ysgrifennydd Masnach yr Unol Daleithiau, Gina Raimondo, ddatganiad yn egluro’r penderfyniad.

“Mae ymchwil gwyddonol i fiotechnoleg ac arloesedd meddygol yn gallu achub bywydau,” meddai.

“Yn anffodus, mae Gweriniaeth Pobl Tsieina yn dewis defnyddio’r technolegau hyn i gael rheolaeth dros eu pobol a gormesu pobol o leiafrifoedd ethnig neu wleidyddol.

“Dydyn ni methu â chaniatáu i nwyddau, technolegau, na meddalwedd o’r Unol Daleithiau sy’n cefnogi gwyddoniaeth feddygol ac arloesedd biodechnolegol, gael eu defnyddio mewn ffordd sy’n groes i ddiogelwch cenedlaethol ein gwlad.”

Mae disgwyl i Adran y Trysorlys roi cosbau yn erbyn nifer o sefydliadau o Tsieina hefyd, yn ôl swyddog gweinyddol anhysbys.

Dywedodd y swyddog bod cudd-wybodaeth gan yr Unol Daleithiau am system oruchwylio ar draws talaith Xinjiang sydd wedi ei gosod gan y llywodraeth yn Beijing.

Yn rhan o hynny, mae’n debyg bod technoleg sy’n gallu adnabod wynebau Wigwriaid, gyda bwriad i’w gormesu nhw.

Mae’r swyddog hefyd yn dweud bod Tsieina wedi casglu samplau DNA o bob unigolyn rhwng 12 a 65 yn y dalaith er mwyn gallu eu hadnabod.

Boicotio’r Gemau Olympaidd

Fe wnaeth y Tŷ Gwyn gyhoeddi wythnos diwethaf y byddan nhw’n boicotio Gemau Olympaidd y Gaeaf yn Tsieina yn 2022, gan gyfeirio at “droseddau hawliau dynol arswydus” gan y wlad.

Bydd gan athletwyr Americanaidd yr hawl i gystadlu, ond bydd Biden ddim yn anfon cynrychiolwyr yno fel sy’n arfer digwydd.

Mae gweinyddiaeth yr arlywydd hefyd wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi deddfwriaeth sy’n gwahardd mewnforion o Xinjiang oni bai bod cwmnïau’n gallu profi bod nwyddau heb eu cynhyrchu drwy lafur gorfodol.

Yn y cyfamser, mae Tsieina yn parhau i wadu unrhyw droseddau, gan ddweud mai camau yn erbyn terfysgaeth a mudiad annibynnol Dwyrain Tyrcestan ydyn nhw.

Ymchwiliad annibynnol yn canfod bod Tsieina wedi cyflawni hil-laddiad

Roedd y Tribiwnlys Wigwraidd wedi asesu tystiolaeth yn dilyn honiadau yn erbyn llywodraeth Tsieina am gam-drin hawliau dynol