Mae’r Prif Weinidog wedi ceisio egluro’r dryswch ynghylch canolfannau brechu galw-i-mewn heb apwyntiad yng Nghymru cyn y flwyddyn newydd.

Daw hyn wrth yn dilyn beirniadaeth nad oedd Cymru yn caniatáu i bobl giwio i fyny am frechlyn atgyfnerthu fel sy’n digwydd yn Lloegr.

Dywedodd Mark Drakeford mai “prif fyrdwn” eu cynllun oedd brechu pobl yn nhrefn angen glinigol, ond bod byrddau iechyd yn cael cynnig darpariaeth galw-i-mewn er mwyn defnyddio brechlynnau heb eu defnyddio er mwyn osgoi gwastraff.

Fe ddywedodd fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn cyngor y JCVI sy’n dweud “y dylem frechu pobl mewn trefn blaenoriaeth glinigol, felly dyna brif fyrdwn sut y byddwn ni’n gwneud pethau yng Nghymru.

“Er mwyn osgoi apwyntiadau’n mynd heb eu llenwi, mae gan fyrddau iechyd y r hawl – yr un system rydym wedi’i defnyddio’r holl ffordd drwy’r pandemig – i alw pobl eraill i mewn, ac weithiau bydd hynny drwy ganolfannau galw-i-mewn, i sicrhau nad yw brechiadau’n sefyll yno heb neb i frechu.”

“Ond gyda’r brif system – y system apwyntiadau – [mae pobol] yn cael eu galw mewn trefn, [rydym] yn gweithio ein ffordd i lawr y grwpiau blaenoriaeth glinigol mewn trefn.

“Bydd rhywfaint o gapasiti sbâr i wneud apwyntiadau a allai fel arall fynd heb eu defnyddio.”

‘Anghysondeb’

Ddoe (Rhagfyr 15) fe ddaeth feirniadaeth gan Lefarydd Iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth yn dweud bod yr “anghysondeb sylweddol” yn yr hyn mae’r Ysgrifennydd Iechyd yn dweud a’r hyn sydd wirioneddol yn digwydd ar lawr gwlad.

“Mae pobol eisiau gwybod bod eu rhai nhw’n digwydd mewn ffordd drefnus, y bydd eu tro nhw’n dod mewn da bryd,” meddai.

Mae dryswch yn cael ei achosi, meddai’r Aelod o’r Senedd ac “os yw pobol yn clywed am rai teithiau cerdded yn digwydd mewn rhai ardaloedd, ond mae’r llywodraeth wedi dweud wrthynt am aros eu tro”.

Daeth feirniadaeth hefyd gan Aelod o’r Senedd, Alun Cairns ynghylch sefyllfa ganolfannau brechu Nghymru o’i gymharu â Lloegr.

“Mae Byrddau Iechyd Lleol yn dal i ddefnyddio’r Post Brenhinol i gynghori pobl am apwyntiadau er gwaethaf heriau’r Nadolig, gyda llawer o staff post yn hunanynysu,” meddai.

“Mae cymaint o bobl ar draws y GIG yn gweithio’n ddiflino. Mae angen i ni sicrhau bod gan gleifion y system fwyaf effeithlon i’w cefnogi.”

Fodd bynnag, mae Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan, wedi beirniadu’r defnydd o ganolfannau galw-i-mewn yn Lloegr – yr hyn a alwodd yn “olygfeydd anhrefnus” dros y ffin – a dweud bod Llywodraeth Cymru yn “cynllunio cyn i ni gyhoeddi”.

Mae’r Gweinidog Iechyd yn mynnu y bydd pobl yn cael gwybod pan fyddant yn cael eu brechu trwy neges destun neu alwad ffôn i gynnig apwyntiad.

“Byddwn yn gofyn i staff ganslo absenoldeb a gwaith ddydd a nos dros y Nadolig i frechu cannoedd o filoedd o bobl mewn ychydig wythnosau.

“Bydd pawb yn cael cyfle i gael y brechlyn atgyfnerthu cyn i uchafbwynt y don ein cyrraedd ni.”

“Dryswch sylweddol” ynghylch canolfannau brechu lle mae modd cerdded i mewn

Dywed Rhun ap Iorwerth fod “anghysondeb” rhwng yr hyn sy’n cael ei ddweud gan y Llywodraeth a’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad