Gallai technoleg newydd ehangu’r bwlch mewn anghydraddoldebau oni bai fod gan weithwyr lais, meddai TUC Cymru.
Mae cyflogwyr yn mabwysiadu technoleg newydd yn gyflym iawn, yn ôl adroddiad newydd gan TUC Cymru, ac mae’n rhaid rhoi mesurau ar waith i sicrhau nad yw gweithwyr yn cael eu gadael ar ôl.
Cafodd ymchwil ei gynnal gan yr Adran Ymchwil Llafur i weld sut y dylai gweithwyr baratoi ar gyfer dyfodol gwaith.
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at ymchwil sydd wedi’i wneud i effaith bosibl technoleg newydd ar nifer a natur swyddi.
Ymhlith yr ymchwil hwnnw, mae rhybudd ei bod hi’n bosib colli hyd at draean o swyddi yng Nghymru o ganlyniad i awtomeiddio, sef bod busnesau yn defnyddio llai ar bobol a mwy ar dechnegol megis drwy beiriannau hunanwasanaeth mewn siopau.
Yn ôl yr adroddiad, mae awtomeiddio’n cael effaith anghymesur ar sectorau megis gweithgynhyrchu a manwerthu, ond dydyn nhw ddim yn sicr mai dyna fydd y realiti.
Mae’r adroddiad gan TUC Cymru yn nodi sut mae gweithwyr yn y Deyrnas Unedig, a gweddill y byd, yn paratoi ar gyfer trawsnewid technolegol, ac yn ceisio sicrhau cyfran deg o’r buddiannau.
Daeth awduron yr adroddiad i’r casgliad bod ymyrraeth lwyddiannus yn bosibl ond bod angen gweithredu nawr.
Mae angen i undebau llafur fod yn paratoi’r ffordd ac ymgysylltu ag aelodau ynghylch sut mae technoleg yn newid y gweithle, a chymryd rhan mewn deialog ar lefel y gweithle ac ar lefel polisi, meddai.
“Newid gwaith”
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, ei bod hi’n “amlwg bod cyflwyno technolegau newydd yn gyflym yn newid gwaith mewn cymaint o ffyrdd”.
“Mae’n effeithio ar y ffordd rydyn ni’n gwneud ein gwaith, yr hyn rydyn ni’n ei wneud a sut rydyn ni’n cael ein rheoli,” meddai Shavanah Taj.
“Ond mae’n bwysig iawn ein bod yn cofio mai’r cyflogwr sy’n dewis cyflwyno technoleg, ac nid yw’n fater un dimensiwn. Mae goblygiadau tymor byr a thymor hir, ac mae llawer ohonyn nhw’n bwysig i weithwyr.
“Mae’n bwysig nad ydyn ni’n ystyried y mater fel swyddi sy’n cael eu colli yn erbyn swyddi a enillir, ond yn hytrach, dylen ni ystyried sut mae modd defnyddio technoleg newydd i wella profiadau gweithwyr.
“Dylem ganolbwyntio ar sut mae negodi mwy o hyblygrwydd, mwy o waith boddhaus, a manteision eraill y gall technoleg newydd eu cynnig.
“Mae llais y gweithiwr yn allweddol. Mae angen i gyflogwyr eistedd o amgylch bwrdd gyda chynrychiolwyr gweithwyr i drafod y broses o gyflwyno technoleg newydd.
“Bydd ailsgilio yn rhan greiddiol o hyn, a rhaid gwobrwyo cyfrifoldebau ychwanegol a thrawsnewid swyddi yn deg.
“Bydd y chwyldro technolegol yn fethiant os bydd yn arwain at weithwyr yn gwneud mwy ond yn cael llai o dâl.”