Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio sedd y Ceidwadwyr yn yr is-etholiad yng ngogledd Swydd Amwythig – buddugoliaeth a fydd yn sicr yn cynyddu’r pwysau ar Boris Johnson.

Roedd Helen Morgan o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cipio’r sedd gyda mwyafrif o 5,925 o bleidleisiau. Cafodd yr isetholiad ei chynnal yn dilyn ymddiswyddiad Owen Paterson.

Cafodd y cyn-weinidog fwyafrif o bron i 23,000 o bleidleisiau yn yr etholaeth yn yr etholiad cyffredinol yn 2019 ond mae’r Ceidwadwyr wedi bod yn brwydro cyfres o honiadau damniol dros y misoedd diwethaf.

Fe gynhaliwyd yr isetholiad yn sgil y sgandal am lygredd yn ymwneud ag Owen Paterson, a daw’r canlyniad ar ôl i 100 o aelodau meinciau cefn y Torïaid wrthwynebu cyfyngiadau coronafeirws newydd Boris Johnson, wrth i achosion o’r amrywiolyn Omicron gynyddu. Dyma’r gwrthryfel fwyaf iddo wynebu ers dod i Rif 10.

Yn ogystal, mae’r Prif Weinidog wedi gorfod gwadu honiadau am bartïon yn Downing Street ym mis Rhagfyr y llynedd oedd yn mynd yn groes i’r cyfyngiadau ar y pryd.

“Craffu a herio”

Fe enillodd Helen Morgan 17,957 o bleidleisiau, gydag ymgeisydd y Torïaid Neil Shastri-Hurst yn ail gyda 12,032.

Yn ei haraith wedi’r fuddugoliaeth dywedodd Helen Morgan: “Heno, mae pobl gogledd Swydd Amwythig wedi siarad ar ran pobl Prydain. Maen nhw wedi datgan yn groch ‘Boris Johnson, mae’r parti ar ben’.”

Fe roddodd addewid i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif gan ddweud y bydd yn cael i “chraffu, ei herio a’i gorchfygu.”

Mae’r Ceidwadwyr wedi ennill y sedd ym mhob pleidlais ers 1983. Roedd Owen Paterson wedi cynrychioli’r etholaeth am 24 mlynedd nes iddo ymddiswyddo ar ôl torri rheolau lobio.