Mae Cyngor Bro Morgannwg yn ystyried camau cyfreithiol i gymryd rheolaeth o’r gwaith o adeiladu ysgol Gymraeg yn y Barri.
Mae’r Cyngor yn cymryd y cam yn sgil oedi cyson i’r gwaith o adeiladu ysgol newydd i Ysgol Sant Baruc yn ardal y Glannau.
Waterfront Consortium, grŵp o gwmnïau adeiladu, sy’n gyfrifol am y gwaith, ond yn ôl y Cyngor maen nhw wedi “profi nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn adeiladu’r ysgol”.
Roedd yr amserlen ddiweddaraf yn dweud y byddai’r gwaith o adeiladu’r ysgol, a oedd i fod i gael ei hagor fis Medi 2021 yn wreiddiol, yn cael ei gwblhau yn gynnar yn 2023.
Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg, mae’r consortiwm wedi llwyddo i adeiladu a gwerthu tai “er budd masnachol” ar y glannau, er bod targedau wedi’u methu i adeiladu’r ysgol.
“Digon yw digon”
Dywedodd y Cynghorydd Lis Burnett, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Addysg ac Adfywio: “Digon yw digon. Mae’n destun gofid ein bod wedi cyrraedd y pwynt hwn, ond mae’r consortiwm wedi profi nad oes ganddynt unrhyw ddiddordeb mewn adeiladu’r ysgol gynradd a addawyd ganddynt fel rhan o Ddatblygiad y Glannau.
“Rwyf i, ynghyd â chynrychiolwyr eraill o’r Cyngor, wedi cynnal nifer o gyfarfodydd gyda nhw mewn ymdrech i fynd i’r afael â’r mater, ond nid ydym wedi gallu gwneud unrhyw gynnydd gwirioneddol.
“Ar bob cam rydym wedi wynebu esgusodion, ond nid yw gwaith adeiladu tai’r datblygwyr wedi dioddef o’r un problemau, sy’n syfrdanol a dweud y gwir.
“Ni allaf ond dod i’r casgliad, er eu bod yn hapus i adeiladu tai er budd masnachol, nad oes gan y Waterfront Consortium unrhyw ddiddordeb mewn cyflawni eu rhwymedigaeth i adeiladu cymuned.
“Maent yn torri eu hymrwymiadau cyfreithiol yn ogystal â pholisïau llywodraeth leol a chenedlaethol ar greu lleoedd.
“Mae’r consortiwm wedi torri addewidion i drigolion Bro Morgannwg ac mae hynny’n rhywbeth nad ydym yn barod i’w dderbyn.
“Mae’r sefyllfa hon wedi cael ei goddef yn ddigon hir.
“Rydym wedi ysgrifennu’n ffurfiol at y Waterfront Consortium yn gofyn iddynt drosglwyddo safle’r ysgol i ni.
“Os nad yw’r datblygwyr yn cytuno, byddwn yn archwilio pa gamau cyfreithiol sydd ar gael i’n galluogi i gymryd rheolaeth.”
Mae golwg360 wedi gofyn i’r Consortiwm am ymateb.