Mae pedwar o blant wedi marw mewn tân mewn tŷ yn ne Llundain er gwaethaf ymdrechion diffoddwyr tân i’w hachub.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i’r tŷ yn Sutton nos Iau yn dilyn adroddiadau bod tân yn llosgi’n ffyrnig yn y tŷ. Roedd diffoddwyr tân wedi mynd i mewn i’r adeilad ac wedi achub y plant a rhoi triniaeth frys iddyn nhw ond fe fu farw’r pedwar plentyn yn yr ysbyty.

Mae’n debyg bod y plant yn perthyn i’w gilydd.

Roedd y fflamau o dan reolaeth erbyn 8.36pm ac mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.

Dywedodd Comisiynydd Tân Llundain Andy Roe bod pawb yn teimlo “tristwch enbyd” yn dilyn marwolaethau’r plant.

“Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r plant, y gymuned leol a’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y tân,” meddai.

Dywedodd bod wyth injan dân a tua 60 o ddiffoddwyr tân wedi eu galw i’r digwyddiad toc cyn 7pm.

Yn ôl yr Heddlu Metropolitan nid oes unrhyw un wedi’u harestio ac mae teulu’r plant wedi cael gwybod am eu marwolaethau ac yn cael cynnig cymorth arbenigol.