Mae’r Deyrnas Unedig ac Awstralia wedi arwyddo cytundeb a fydd yn torri tariffau ar fewnforio gwin a byrddau syrffio, a’i gwneud hi’n haws i bobol ifanc o Brydain weithio yn Awstralia.
Cafodd y cytundeb ei chyhoeddi ym mis Mehefin, ond cafodd ei gadarnhau mewn seremoni arwyddo rithiol neithiwr (16 Rhagfyr).
Does dim disgwyl y bydd y cytundeb yn ychwanegu llawer at dwf economaidd y Deyrnas Unedig yn y tymor hir, ac mae gwrthwynebwyr wedi rhybuddio am ei effaith ar ffermwyr ac wedi cwestiynu ei ymrwymiadau i fynd i’r afael â newid hinsawdd.
Bydd y cytundeb yn mynd o flaen Senedd San Steffan ar gyfer cyfnod o graffu nawr.
“Y dechrau’n unig”
Dywedodd Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan, Anne-Marie Trevelyan, a arwyddodd y cytundeb: “Mae ein cytundeb masnach Deyrnas Unedig-Awstralia yn garreg filltir yn y berthynas hanesyddol a hanfodol rhwng ein dwy gymanwlad.
“Mae’r cytundeb hwn wedi’i deilwra er cryfderau’r Deyrnas Unedig, ac mae’n darparu ar gyfer busnesau, teuluoedd, a chwsmeriaid ymhob rhan o’r Deyrnas Unedig – gan helpu ni i godi’r gwastad.
“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â heriau cyffredinol mewn masnach ryngwladol, newid hinsawdd, a newidiadau technolegol yn y blynyddoedd nesaf.
“Heddiw, rydyn ni’n dangos be all y Deyrnas Unedig lwyddo i’w wneud fel cenedl fasnachol annibynnol sofran, hyblyg.
“Y dechrau’n unig yw hyn wrth i ni fod ar flaen y gâd, a manteisio ar gyfleoedd mawr sy’n ein disgwyl ar lwyfan y byd.”
Y cytundeb
Mae’r cytundeb yn caniatáu i bobol rhwng 18 a 35 oed weithio a theithio yn Awstralia am hyd at dair blynedd, gan gael gwared ar yr amodau fisa sydd mewn lle ar hyn o bryd.
Mae’r cytundeb hefyd yn cynnwys cael gwared ar dariffau ar holl allforion y Deyrnas Unedig i Awstralia, ac yn ôl gweinidogion bydd cynnyrch megis gwinoedd Jacob’s Creek, bisgedi siocled o Awstralia, a byrddau syrffio yn rhatach i gwsmeriaid yn y Deyrnas Unedig.
Yn ôl Adran Masnach Ryngwladol San Steffan, mae disgwyl i’r cytundeb gynyddu’r fasnach rhwng Awstralia a’r Deyrnas Unedig o 53%, a rhoi hwb o £2.3 biliwn i economi’r Deyrnas Unedig.
Mae amcangyfrifon swyddogol am effaith y cytundeb wedi awgrymu y byddai’r cytundeb yn arwain at gynnydd o rhwng 0.01% a 0.02% mewn cynnyrch gros domestig yn y tymor hir.
Mae hyn yn rhannol oherwydd mai dim ond 1.7% o allforion y Deyrnas Unedig sy’n mynd i Awstralia, a’u bod nhw’n gyfrifol am 0.7% o fewnforion y Deyrnas Unedig, ac oherwydd bod tariffau ar y rhan fwyaf o’r fasnach rhwng y ddwy yn isel yn barod.
“Pryderon sylweddol”
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi Cymru, fod gan Lywodraeth Cymru “bryderon sylweddol ynghylch y cynnydd o ran mynediad i’r farchnad sy’n rhan o’r cytundeb”.
“Er bod manteision efallai yn y cytundeb i Gymru, yn enwedig ym maes gwasanaethau a symudedd, roeddwn i’n glir iawn yn ystod y negodiadau bod yn rhaid i unrhyw gytundeb masnach beidio â rhoi Cymru dan anfantais nac amharu ar y safonau uchel sydd mor bwysig i ni yma yng Nghymru,” meddai Vaughan Gething.
“Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer ein sector amaethyddiaeth sy’n cydymffurfio â’r rheoliadau ym maes amgylchedd a llesiant anifeiliaid ac mae gennym bryderon sylweddol o hyd ynghylch y cynnydd o ran mynediad i’r farchnad sy’n rhan o’r cytundeb hwn, yr effaith y gall hyn ei chael ar ein cynhyrchwyr a’r cynsail y gall ei osod ar gyfer cytundebau yn y dyfodol.
“Rydw i’n siomedig nad yw’n ymddangos fod fy sylwadau ar yr elfen hon o’r cytundeb wedi’u hystyried. Gwnes i a’m swyddogion bwysleisio’r pwynt hwn yn ddigon clir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y trafodaethau.”
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn craffu ar fanylion y cytundeb, meddai Vaughan Gething, ac yna’n cyhoeddi asesiad sy’n canolbwyntio ar Gymru.
“Byddwn hefyd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yng Nghymru i ddeall eu safbwyntiau ar effaith y cytundeb.”
“Methu amddiffyn ffermwyr”
Wrth ymateb i’r manylion am y cytundeb, dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, fod y cytundeb yn “methu amddiffyn ein ffermwyr yn y tymor hir”.
Yn ôl Jane Dodds, bydd “cymunedau amaethyddol yn cael eu tanseilio gan fwyd wedi’i fewnforio sy’n cael ei gynhyrchu i safon is o ran llesiant anifeiliaid ac amddiffyn yr amgylchedd”.
“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cefnogi ffermwyr Cymru, rydyn ni’n galw ar y Llywodraeth i gefnogi bil Tim Farron yn Senedd y Deyrnas Unedig a fyddai’n gorfodi’r Llywodraeth i gyhoeddi’r asesiad am effaith y cytundeb hwn ar Gymru, a rhoi’r gair olaf i’r Senedd.”
Mae ysgrifennydd cyffredinol Cyngres yr Undebau Llafur (TUC), Frances O’Grady, wedi dweud bod y cytundeb yn “golygu bygythiad i bobol weithiol wrth gyfrannu nesaf peth i ddim i’n heconomi” oherwydd “does dim ffordd effeithiol o orfodi hawliau llafur sylfaenol” i amddiffyn gweithwyr sy’n fewnfudwyr rhag cael eu hecsbloetio.
Ar y llaw arall, mae grwpiau busnes wedi croesawu’r cytundeb, gyda llywydd Conffederasiwn Diwydiannau Prydeinig, yr Arglwydd Bilimoria, yn dweud ei fod yn “agor cyfleoedd newydd”.