Bydd Rishi Sunak yn cynnal trafodaethau brys gydag arweinwyr busnesau sydd wedi dioddef colledion oherwydd ofnau ynghylch lledaeniad cyflym Omicron.
Mae’r Canghellor dan bwysau i greu pecyn ariannol i’r diwydiant lletygarwch wrth i bobl ganslo partis Dolig ac ati, gyda’r niferoedd sy’n dal yr amrywiolyn Omicron o Covid-19 gynyddu yn sydyn.
Eisoes mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd angen i glybiau nos gau o 27 Rhagfyr ymlaen, a bydd disgwyl i bobl mewn swyddfeydd gadw dau fetr ar wahân.
Mae adroddiadau bod tafarnau, bwytai a gwestai Cymru wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn busnes, a hynny ar adeg o’r flwyddyn sydd fel arfer y cyfnod mwya’ llewyrchus iddyn nhw.
Mae Rishi Sunak wedi dweud ei fod yn “gwerthfawrogi ei bod yn amser anodd i’r diwydiant lletygarwch” ac y bydd Llywodraeth Prydain yn parhau i “wneud beth bynnag sydd ei angen” i gefnogi swyddi.
Yn ôl pennaeth UKHospitality, Kate Nicholls, mae’r diwydiant lletygarwch yng ngwledydd Prydain wedi colli gwerth £2biliwn o fusnes hyd yma ym mis Rhagfyr, sef tua thraean o’r fasnach arferol.
Ac mae Cymdeithas Tafarnau a Chwrw Prydain yn amcangyfrif y bydd 37 miliwn yn llai o beintiau yn cael ei gwerthu’r Dolig hwn, a thafarnau yn colli £297 miliwn, o gymharu â chyfnod Nadolig 2019.