Mae dadansoddiad o ddata’r Swyddfa Dywydd yn dangos mai sir Rhondda Cynon Taf yw’r fwyaf tebygol o holl siroedd Cymru i weld eira yn disgyn ar ddydd Nadolig.

Yn ôl y canlyniadau, mae tebygolrwydd o 66.25% y bydd eira i’w weld yn y sir yn y de ar ddydd yr ŵyl, tra bod Powys yn ail gyda thebygolrwydd o 65.77%, a Phen-y-bont ar Ogwr yn drydydd ar 62.27%.

Bu’r ymchwilwyr yn dadansoddi data gan y Swyddfa Dywydd sy’n cynnwys y patrymau bwrw eira yn holl siroedd Prydain yn ystod yr 20 mlynedd ddiwethaf.

Gall pobol Torfaen bron yn sicr gadw eu slediau yn y cwpwrdd, gan mai honno yw’r sir sydd lleiaf tebygol o gael Nadolig gwyn yn ôl y data, gyda phosibilrwydd o ddim ond 0.69%.

Breuddwydio am Nadolig gwyn?

Yn anffodus i Gymru, neu’n ffodus i’r rhai sy’n teithio, rydyn ni’n llai tebygol o gael eira na gweddill Prydain, gyda phosibilrwydd o 35.81%, o’i gymharu â’r Alban (81.85%) a Lloegr (43.26%).

Ar ben hynny, roedd tair sir o’r Alban yn fwy na 90% tebygol o gael eira, sef Moray, yr Ucheldiroedd, a Perth a Kinross.

Er bod siawns go-lew o gael eira rhywle yng Nghymru ar ddydd Nadolig felly, byddai patrymau diweddar yn dweud fel arall.

Ers 1960, mae 23 Nadolig wedi bod yn wyn yng Nghymru, ond rhaid mynd yn ôl i 2009 i ganfod Dolig pan gawson ni swm sylweddol o eira’n disgyn ar ddydd Nadolig, pan gafodd ychydig fodfeddi eu cofnodi yng nghefn gwlad Powys.

Y siroedd i gyd:

  • Rhondda Cynon Taf – 66.25%
  • Powys – 65.77%
  • Pen-y-bont ar Ogwr – 62.27%
  • Casnewydd – 53.35%
  • Ceredigion – 52.04%
  • Abertawe – 50.30%
  • Caerdydd – 48.34%
  • Castell-nedd Port Talbot – 47.47%
  • Caerffili – 44.80%
  • Gwynedd – 39.08%
  • Sir Benfro – 35.01%
  • Wrecsam – 32.14%
  • Blaenau Gwent – 30.34%
  • Bro Morgannwg – 29.44%
  • Sir Ddinbych – 27.48%
  • Conwy – 26.42%
  • Ynys Môn – 13.14%
  • Sir Fynwy – 12.78%
  • Merthyr Tudful – 12.59%
  • Sir y Fflint – 11.25%
  • Sir Gâr – 11.09%
  • Torfaen – 0.69%