Mae’r Bwrdd Ymddiriedolwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi penderfynu y bydd Is-lywydd llawn amser Iaith, Diwylliant a Chymuned Gymraeg yn ymuno â’r tîm swyddogion o fis Gorffennaf 2023.

Dair wythnos yn ôl, fe wnaeth myfyrwyr Prifysgol Caerdydd bleidleisio o blaid creu Swyddog Cymraeg llawn amser yng Nghyfarfod Blynyddol yr Undeb.

Bellach mae Bwrdd yr Ymddiriedolwyr wedi cynnig gwelliant i is-ddeddfau’r Undeb, yn nodi bod rhaid cynnwys Is-Lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Gymraeg o fewn y tîm sabothol.

Y cam nesaf fydd cynnig y gwelliannau hyn i Senedd y Myfyrwyr i’w cymeradwyo yn ystod misoedd cyntaf 2022.

Bydd y swydd yn dod i rym wedyn wedi etholiadau Gwanwyn 2023.

Roedd gwleidyddion Plaid Cymru wedi bod yn galw ar Weinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru i gefnogi’r alwad, ac fe wnaeth yr Aelodau o’r Senedd dros Blaid Cymru, Heledd Fychan a Rhys ab Owen, ysgrifennu’n ffurfiol at y brifysgol yn cefnogi sefydlu’r rôl.

Cafodd llythyr cyhoeddus ei lofnodi gan dros 100 o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, gan gynnwys Huw Edwards, hefyd.

“Ymfalchïo”

Mae’r newyddion heddiw wedi cael ei groesawu gan Annell Dyfri, y swyddog gwirfoddol, rhan amser, presennol.

“Yn amlwg dw i’n croesawu’r newyddion heddiw, dw i’n credu bod hi’n grêt ein bod ni wedi gallu llwyddo i gael cadarnhau bod yna Swyddog Cymraeg llawn amser yn mynd i fod ar gyfer 2023,” meddai Annell Dyfri, a wnaeth y cynnig yng Nghyfarfod Blynyddol Undeb y Myfyrwyr eleni, wrth golwg360.

“Mae e bach yn rhwystredig bod rhaid i ni ddisgwyl blwyddyn arall cyn y gellir penodi swyddog llawn amser, ond mae’n newyddion da iawn i fyfyrwyr Cymraeg y brifysgol, y myfyrwyr presennol a hefyd y rhai sydd wedi bod yn ymgyrchu’n daer o blaid y sefyllfa yma a’r swydd ers sawl blwyddyn bellach.

“Wrth gael y swyddog llawn amser yn yr undeb i gynrychioli buddiannau’r garfan gynyddol o siaradwyr Cymraeg, mae’n sicr yn rhywbeth i ymfalchïo’n fawr ynddo.

“Dw i’n edrych ymlaen yn arw at weld y swydd yn ei lle yn 2023.”

“Newid hynod gadarnhaol”

Yn ôl Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, maen nhw’n gweld hyn yn “newid hynod gadarnhaol i’r sefydliad a’i gefnogaeth i’r gymuned Gymraeg a’r corff myfyrwyr ehangach”.

“Byddai’r newidiadau hyn i bob pwrpas yn gwarantu swydd Is-lywydd Iaith, Diwylliant a Chymuned Gymraeg, gan fod y newidiadau yn cynnig “clo triphlyg” yn nogfennau llywodraethol Undeb y Myfyrwyr,” meddai datganiad gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd.

“Hoffai’r Swyddogion Sabothol ddiolch i’r myfyrwyr sydd wedi ymgysylltu’n angerddol ac yn gadarnhaol â’r pwnc hwn, mae gan yr Undeb hanes balch o actifiaeth myfyrwyr a bydd yn parhau i gefnogi ac annog myfyrwyr i godi llais ar faterion sy’n bwysig iddynt.”

Cefndir

Y bleidlais fis diwethaf oedd yr eildro o fewn tair blynedd i fyfyrwyr bleidleisio o blaid creu rôl ar gyfer Swyddog y Gymraeg yng Nghaerdydd.

Cafodd cynnig ei basio yn 2018 a fyddai, ym marn y cynigwyr, wedi arwain at benodi swyddog llawn amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Caerdydd.

Ond yn ôl Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd ar y pryd, roedd y cynnig yn galw ar Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i ystyried creu’r swydd, a dim mwy.

Penderfynodd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr nad oedd hi’n ymarferol creu swyddog ychwanegol ar gyfer y Gymraeg, ond y byddai’n rhesymol cynnwys Swyddog y Gymraeg fel rhan o’r tîm o saith sy’n bodoli ar y funud.

Gwrthodwyd hynny mewn Cyfarfod Cyffredinol ym mis Tachwedd 2019, ac roedd disgwyl i’r Undeb gynnal adolygiad manwl o’r sefyllfa.

Yn ôl yr Undeb, fe wnaeth y pandemig eu hatal rhag cadw at yr amserlen ar gyfer ymgymryd â’r adolygiad, ac roedd disgwyl iddo fod yn barod erbyn Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Tachwedd 2022.

Y nod wrth gyflwyno’r cynnig eto eleni oedd “dangos bod y galw yn gynyddol”, ac fe wnaeth canlyniad y bleidlais honno ddangos bod myfyrwyr “yn dechrau cael digon bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn wahanol i’r Saesneg”, meddai Annell Dyfri.

Hen adeilad y Brifysgol

Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn pleidleisio o blaid creu Swyddog Cymraeg llawn amser

Pasio’r cynnig yn dangos bod “myfyrwyr yn dechrau cael digon bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn wahanol i’r Saesneg”

Galwadau o’r newydd am Swyddog Llawn Amser i gynrychioli myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd

“Pam bod prifysgol fwyaf Cymru, prifysgol sydd ym mhrifddinas Cymru, ddim yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael yr un sylw?”