Mae’r drefn ar gyfer talu am unrhyw gyfnodau clo pellach “yn annheg”, meddai Prif Weinidog Cymru wrth drafod ei gynlluniau ar gyfer delio gyda covid.
Mewn cynhadledd i’r Wasg heddiw (17 Rhagfyr), dywedodd Mark Drakeford fod sefyllfa bresennol Trysorlys y Deyrnas Unedig, sy’n gwrthod agor cynlluniau cymorth hanfodol fel ffyrlo ar hyn o bryd, yn “cyfyngu’n ddifrifol” ar allu Llywodraeth Cymru i “ddarparu a chynnal cefnogaeth economaidd” pe bai ei hangen.
Bydd pecyn cymorth ariannol o £60 miliwn ar gael i fusnesau sy’n cael eu heffeithio gan y cyfyngiadau hynny, ac mae hwnnw’n “ddigon” i dalu am y mesurau sydd wedi’u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, meddai Mark Drakeford.
Cyn y Nadolig
Cyn i’r rheolau newydd ddod i rym ar ôl y Nadolig, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobol nes hynny.
Mae’r rheiny yn cynnwys anogaeth gref i bawb gael eu brechu, gwneud prawf llif unffordd cyn mynd allan, cofio bod cyfarfod tu allan yn well nag o dan do, a sicrhau awyru da os ydych chi’n cyfarfod tu mewn, gwasgaru digwyddiadau cymdeithasol, a chofio ymbellhau cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb, a golchi dwylo.
Amrywiolyn Delta sy’n gyfrifon am y “mwyafrif helaeth” o achosion Covid-19 yng Nghymru ar y funud, ac mae’r arbenigwyr yn credu mai’r amrywiolyn Delta fydd yn bennaf gyfrifol am heintiadau Covid nes y Nadolig, meddai Mark Drakeford.
Yn sgil hynny, mae’n bosib parhau ar Lefel Rhybudd Sero am nawr.
Ar hyn o bryd, mae cyfradd yr achosion Covid yng Nghymru yn “uchel ond sefydlog” ar tua 500 achos i bob 100,000 o’r boblogaeth.
Wrth ymateb i gwestiwn yn gofyn “a yw’r Nadolig hwn yn ddiogel nawr?”, ac a oes siawns y bydd cyfyngiadau’n cael eu hychwanegu ar gyfer diwrnod Nadolig, dywedodd Mark Drakeford nad yw’n bwriadu gwneud hynny.
“Dw i’n meddwl bod gennym ni set o negeseuon eithaf syml yma yng Nghymru, a dw i’n meddwl bod symlrwydd yn helpu.”
Nid oes ganddo fwriad i atal pobol rhag teithio rhwng Cymru a Lloegr chwaith, gan fod y cyd-destun yn wahanol o ran y cyflymder mae Omicron yn lledaenu o gymharu ag yn ystod tonau blaenorol.
“Pan roedd gennym ni amrywiolion oedd yn symud yn arafach, yna roedd yn gam ymarferol i drio atal lledaeniad yr amrywiolyn o lefydd â chyfradd uchel i lefydd â chyfradd isel.
“Gydag Omicron, lle mae’r lledaeniad mor sydyn, dw i ddim y meddwl y byddai’n fesur effeithiol, yn syml.
“Felly dydyn ni ddim yn ystyried hynny.”
“Ddim yn deg”
Pe bai angen cyflwyno cyfnod clo, neu fesurau llymach a fyddai’n gofyn am dalu arian ffyrlo i weithwyr, dim ond Trysorlys y Deyrnas Unedig sydd gyda’r gallu i ariannu hynny, meddai Mark Drakeford.
“Yr hyn rydyn ni’n siarad amdano yw’r mesurau eithriadol ac anarferol y gellir bod eu hangen wrth wynebu ton Omicron,” meddai.
“A’r pwynt dw i’n ei wneud yw ei bod hi ddim yn deg bod gweinidogion y Deyrnas Unedig yn gallu gweithredu pan maen nhw’n credu y mae angen iddyn nhw weithredu, oherwydd bydd y Trysorlys yno i’w cefnogi nhw, tra bod llywodraethau datganoledig yn gorfod aros nes mae gweinidogion Lloegr yn penderfynu cyn mae’r arian yn dod atom ni.
“Pan mae hi’n bosib ein bod ni angen gwneud penderfyniadau gwahanol gan ddilyn amserlenni wahanol, dylem ni gael yr un math o hawl â gweinidogion y Deyrnas Unedig, a ninnau i gyd yn gweithredu er mwyn diogelu ein poblogaethau mewn argyfwng iechyd cyhoeddus.”
Clybiau nos
Wrth drafod cau clybiau nos ar 27 Rhagfyr, dywedodd Mark Drakeford fod y penderfyniad yn un sy’n “gwarchod iechyd pobol a fyddai fel arall yn rhoi eu hunain mewn perygl o niwed”.
“Os edrychwch chi ar Lundain a gweld lle bu’r twf cyflymaf yn achosion amrywiolyn Omicron, mae wedi bod ymhlith pobol yn eu hugeiniau a’u tridegau,” meddai, gan wadu fod cau’r clybiau nos yn benderfyniad sy’n cosbi pobol ifanc.
“Yn yr achos yma, fe allwch chi ddweud ein bod yn gwahaniaethu o blaid pobol iau trwy gymryd camau mewn cyd-destun ble maen nhw’n fwyaf tebygol o fynd yn groes i wybodaeth am y ffordd y mae Omicron â chyfradd uwch ymhlith grwpiau iau.”
Dywedodd Mark Drakeford eu bod nhw’n canolbwyntio “ar gyd-destun lle rydyn ni’n credu mae’r risg uchaf” wrth gau clybiau nos.
“Mae pobol yn mynd i glybiau nos i fynd yn agos at bobol eraill, dyna’r rheswm dros y lleoliad,” meddai.
“Rydyn ni’n gwybod o rannau eraill o’r byd fod y fath lefydd wedi arwain at ledaenu covid yn hynod gylfym.
“Dw i’n meddwl bod posib gwahaniaethu rhwng y rhesymau pam fod pobol yn mynd i fwyty a’r rhesymau pam fod pobol yn mynd i glybiau nos – nid oherwydd bod y lleoliadau eraill yna’n sicr o fod heb coronafeirws, ond mae’n hierarchaeth o risg.
“Rydych chi’n dechrau gyda’r cyd-destun â’r mwyaf o risg, ac yna gweld os oes angen gwneud mwy.”
Bydd cabinet Llywodraeth Cymru yn cyfarfod eto yn y dyddiau nesaf i drafod sefyllfa digwyddiadau mawr megis gemau rygbi sydd wedi’u trefnu ar gyfer y cyfnod rhwng y Nadolig a’r flwyddyn newydd.
Pasys Covid
Dywedodd Mark Drakeford bod pasys covid wedi bod yn “effeithiol iawn”, ond bod amrywiolyn Omicron wedi newid y cyd-destun.
“Pe baem ond yn delio â Delta yna rwy’n credu mai aros ar agor gyda phas fyddai’r llwybr yr oeddem arno,” meddai.
“Yn anffodus, mae cymylau duon yn yr awyr gyda’r amrywiadau newydd rydyn ni’n gwybod sy’n dod ein ffordd ni.”
Y neges ganddo oedd bod ‘Nadolig bach yn Nadolig saffach’, ac roedd yn tynnu sylw at rai o’r canllawiau sydd mewn grym ar gyfer yr wythnos nesaf tra bod Cymru’n parhau ar Lefel Rhybudd Sero.
Mae amrywiolyn Omicron yn lledaenu’n hawdd o berson i berson dan do, meddai, a galwodd ar bobol i leihau faint o bobol eraill maen nhw’n gyfarfod “yn enwedig os ydych chi’n gweld pobol hŷn neu fregus dros y Nadolig”.
Gwasanaethau cyhoeddus
Mae hi’n “anorfod” y bydd cynnydd mawr mewn achosion Omicron yn yr wythnosau nesaf yn cael effaith ar wasanaethau cyhoeddus, meddai’r Prif Weinidog.
“Os bydd yr amrywiolyn Omicron yn dod atom ni mewn ton fel mae rhai pobol yn ei ddisgwyl, mae hynny am gael effaith ar wasanaethau cyhoeddus achos bydd pobol sy’n gweithio yn y maes iechyd, gofal cymdeithasol, ac yn y blaen, mae nifer ohonyn nhw’n mynd i gwympo’n dost oherwydd yr amrywiolyn newydd.”
Ychwanegodd fod gwasanaethau megis y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, yr heddlu, ac awdurdodau lleol yn paratoi o flaen llaw ar gyfer mis Ionawr “pan fydd y system i gyd o dan straen”.