Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw nawr yn blaenoriaethu menywod beichiog ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu.

Daw hyn ar ôl i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) gynghori y dylid eu hystyried fel rhan o’r grŵp risg clinigol, sydd eisoes yn cynnwys yr henoed a phobol gyda chyflyrau iechyd isorweddol.

Yn dilyn y cyngor hwnnw, mae’r llywodraeth yn annog pob un sy’n feichiog i drefnu apwyntiad gyda doctor ar gyfer eu dos cyntaf neu ail ddos os nad ydyn nhw eisoes wedi gwneud hynny.

Bydd y byrddau iechyd yn cysylltu ag unigolion yn eu tro er mwyn trefnu apwyntiad ar gyfer y brechlyn atgyfnerthu, gyda’r bwriad i gynnig dyddiad i bawb dros 18 cyn diwedd y flwyddyn.

‘Un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw fam feichiog ei wneud’

Mewn datganiad heddiw (dydd Gwener, 17 Rhagfyr), fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddweud y byddan nhw’n gweithredu ar y cyngor gan y JCVI ar unwaith.

Roedden nhw hefyd yn dweud bod niferoedd y menywod beichiog sy’n derbyn y brechlyn yn “is nag y byddem yn ei hoffi.”

“Cael dos cyntaf, ail ddos a brechlyn atgyfnerthu rhag COVID-19 yw un o’r pethau pwysicaf y gall unrhyw fam feichiog ei wneud i’w diogelu ei hun a’i baban sydd heb ei eni yn erbyn y coronafeirws a’r amrywiolyn newydd Omicron,” meddai’r Llywodraeth mewn datganiad.

“Ers peth amser nawr, rydym wedi bod yn annog menywod beichiog i gael eu brechlynnau COVID-19. Mae cyngor newydd gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn atgyfnerthu’r neges hon.

“Mae nifer y menywod beichiog sy’n manteisio ar y brechlyn wedi bod yn is nag y byddem yn ei hoffi, ac mae hyn yn rhoi mamau a’u babanod mewn perygl.

‘Yn seiliedig ar y data’n ymwneud â diogelwch, yn ogystal â’r risg gynyddol yn sgil COVID-19, mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylid ystyried menywod beichiog yn grŵp risg clinigol a’u gwneud yn flaenoriaeth ar gyfer cael y brechlyn COVID-19.

“Rydym yn annog pob mam feichiog i gysylltu â’u byrddau iechyd i wneud apwyntiad i gael eu dos cyntaf neu eu hail ddos o’r brechlyn. Bydd y bwrdd iechyd yn cysylltu â’r menywod sy’n aros am y pigiad atgyfnerthu.”

Cyfyngiadau newydd

Yn hwyr neithiwr (nos Iau, 16 Rhagfyr), cyhoeddodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y byddai cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno ar ôl y Nadolig.

Mae hynny’n cynnwys cau clybiau nos, ymbellhau cymdeithasol mewn swyddfeydd, yn ogystal â gorfodi mesurau ychwanegol ar gyfer cwsmeriaid a staff mewn busnesau.

Bydd £60m ar gael i fusnesau sydd wedi eu heffeithio gan y cyfyngiadau newydd, gyda mwy o fanylion i ddod ynglyn â sut mae hawlio arian.

Yn ymateb i gyhoeddiad y Prif Weinidog, roedd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, yn teimlo bod y cyhoeddiad wedi rhoi eglurder i lawer o deuluoedd a fydd yn dathlu dros y Nadolig.

Er hynny, fe honnodd bod cau clybiau nos yn arwydd bod pasys Covid-19 wedi methu.

“Mae penderfyniad y Prif Weinidog i dynhau mewn rhai meysydd ar ôl cyfnod y Nadolig, a chau lleoliadau fel clybiau nos, yn gyfaddefiad bod cyfyngiadau fel pasborts brechu wedi methu a byth yn mynd i weithio yng Nghymru,” meddai.

“Mae hyn yn cael effaith amrywiol ar gwmnïau o Gymru mewn sawl sector ac mae’n rhaid i’r llywodraeth Lafur nawr ddefnyddio’r cannoedd ar filiynau o bunnoedd sydd ar ôl yn y gronfa cefnogaeth Covid-19 i helpu busnesau ac amddiffyn swyddi.”

Bydd y cyfyngiadau newydd yn dod i rym ar ddydd Llun, 27 Rhagfyr.

Mae Mark Drakeford yn disgwyl tan ddydd Llun cyn cyhoeddi penderfyniad ynghylch cyflwyno cyfyngiadau ar ddigwyddiadau chwaraeon mawr, fel gemau rygbi Dydd San Steffan a’r Grand National Cymreig, i’w galluogi nhw i fynd yn eu blaen heb risgiau.

Pob oedolyn cymwys i gael cynnig trydydd brechlyn erbyn diwedd y mis

“Mae’r dos atgyfnerthu – y trydydd dos – yn hollbwysig,” medd Prif Weinidog Cymru

Canllawiau cyn y Nadolig, cyfyngiadau ar ei ôl

Mark Drakeford yn amlinellu cynllun dau gam – cymdeithasu llai dros y Nadolig, a chlybiau nos yn cau ar 27 Rhagfyr