Gêm Gymraeg newydd yw’r gêm fwrdd sy’n gwerthu orau ar Amazon ar hyn o bryd.

Cafodd HYDERUS?, sef addasiad Cymraeg o’r gêm CONFIDENT?, ei lansio ym mis Medi, ac mae’r fersiwn newydd ddwyieithog yn cynnwys cwestiynau cwbl newydd, eu hanner nhw’n ymwneud â Chymru a’r iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd, maen nhw’n gwerthu hyd at 100 o’r gemau bob dydd ar Amazon, meddai cydberchennog Confident Games, Ceri Price.

Mae’r gêm wedi curo cwis rhyngweithiol sy’n cynnwys cwestiynau raglen enwog Friends, a chasgliad o gemau bwrdd clasurol megis Ludo a Draughts er mwyn cipio’r brif safle a dod yn werthwr gorau gwefan Amazon.

Cafodd y cwmni eu diwrnod gorau ddydd Mawrth diwethaf, pan gafodd 120 o’r gemau eu gwerthu ar Amazon.

Ers lansio, mae Ceri Price yn dweud eu bod nhw wedi gwerthu tua 1,000 gêm HYDERUS? ar Amazon, tua 500 yn y siop pop-yp yn John Lewis yng Nghaerdydd, a tua, 1,500 mewn siopau eraill, gan olygu bod cyfanswm o tua 3,000 o’r gemau wedi eu gwerthu hyd yn hyn.

Galw am gemau Cymraeg

Mae Ceri Price yn disgwyl mai’r wythnos nesaf fydd yr wythnos brysuraf wrth i bobol hel gemau’n barod at y Nadolig.

“Ar gyfer gemau sy’n lansio’n newydd, maen nhw fel arfer yn printio tua 2,000 copi, rhywbeth fel yna, a smo nhw fel arfer yn gwerthu mas. Felly i wneud hwn ar gyfer y fersiwn Gymraeg yn ei flwyddyn gyntaf, mae’n pretty amazing,” meddai Ceri Price wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi cael lot o gefnogaeth, pobol yn rili mwynhau e, a does yna ddim lot o bethau fel hyn ar gael yn y Gymraeg, so mae’n dangos bod galw am bethau fel hyn yn yr iaith Gymraeg.

“Rydyn ni’n gwerthu hefyd, dim jyst i bobol sy’n siarad Cymraeg, ond i bobol di-Gymraeg achos mae e’n ddwyieithog.

“Doedd gennym ni ddim syniad rili sut fydde fe’n mynd achos doedd dim byd i gymharu fe gyda.”

Cyn lansio HYDERUS?, dywedodd Ceri Price ei bod hi’n anodd rhagweld yn union pa mor llwyddiannus fyddai’r gêm Gymraeg, ond ei bod hi “werth y risg oherwydd gallai fod yn wych i’r iaith Gymraeg”.

“Ers Gêm yr Eisteddfod, sy’n eithaf hen dw i’n credu, s’dim byd fel hyn rili wedi bod so roedd hi’n galed i amcangyfrif fel fydde ni’n gwneud,” eglurodd.

“Mae e’n deimlad grêt, a gobeithio fydd hwn yn cynyddu dros y blynydde hefyd, bod e ddim jyst yn one off y flwyddyn yma.

“Mae lot o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, lot mwy o bobol gobeithio fydde’n prynu fe yn y dyfodol, ac yn gallu cymdeithasu gartref yn y Gymraeg, heb orfod cyfieithu [cwestiynau] eu hunain nawr.”

Bydd HYDERUS? ar werth yn y siop pop-yp yn John Lewis Caerdydd hyd at ddydd Sul (19 Rhagfyr), ac mae hi ar gael mewn siopau annibynnol dros Gymru ac ar wefan y cwmni, yn ogystal ag ar Amazon.

Gobaith y bydd gêm fwrdd newydd yn “sbarduno pobol i siarad mwy o Gymraeg gartref”

Cadi Dafydd

Bydd y gêm HYDERUS? yn cael ei lansio’r wythnos nesaf, ac yn gyfle i bobol “ddysgu am y Gymraeg a Chymru”