Mae nifer o wledydd Islamaidd wedi dod ynghyd i drafod yr argyfwng economaidd a dyngarol yn Affganistan.

Daeth y Sefydliad Cydweithrediad Islamaidd ynghyd heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 19) i benderfynu sut i ymateb i’r sefyllfa.

Mae miliynau o bobol yn wynebu newyn yn ystod misoedd y gaeaf, ond dydy’r gwledydd Gorllewinol ddim fel pe baen nhw eisiau ymyrryd ers i’r Taliban ddod i rym ym mis Awst.

Ond mae Imran Khan, prif weinidog Pacistan, yn rhybuddio bod “annhrefn” ar y gorwel, gan gynnwys argyfwng i ffoaduriaid a rhagor o drais.

Hefyd yn y cyfarfod deuddydd yn Islamabad mae cynrychiolwyr o’r Cenhedloedd Unedig a sefydliadau ariannol rhyngwladol, yn ogystal â chynrychiolwyr o lywodraethau ym mhob cwr o’r byd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a Japan.

Y Taliban

Yn ôl Amir Khan Muttaqi, gweinidog tramor dros dro Affganistan, mae’r Taliban wedi adfer heddwch yn y wlad, ac maen nhw wedi ymateb i’r galwadau am lywodraeth gynhwysol sy’n parchu hawliau dynol, gan gynnwys hawliau menywod.

Mae’r Taliban eisoes wedi bod yn galw am gymorth i adfer yr economi ac i fwydo mwy nag 20 miliwn o bobol sy’n wynebu newyn.

Mae rhai gwledydd eisoes wedi dechrau rhoi cymorth dyngarol, ond mae chwalfa’r banciau wedi arafu’r broses honno.

Ond mae’n debyg fod dyfodol ariannol y wlad yn nwylo’r Unol Daleithiau ar hyn o bryd, wrth iddyn nhw benderfynu a ddylid dad-rewi biliynau o ddoleri o’r banc canolog a dileu sancsiynau.

Mae Imran Khan yn dweud bod angen sylweddoli bod llywodraeth y Taliban yn wahanol iawn i’r 40 miliwn o ddinasyddion sy’n byw yn y wlad.

Yn ôl Muttaqi, fydd y llywodraeth ddim yn hwyluso’r broses o ddefnyddio Affganistan fel canolbwynt ar gyfer ymosodiadau ar wledydd eraill, ac mae’n mynnu na fydd aelodau’r llywodraethau blaenorol yn cael eu herlid am eu gweithredoedd yn y gorffennol.

Ond mae’r Taliban dan y lach am wthio menywod a merched i’r cyrion, gan ddileu eu hawl i weithio a chael addysg, gwahardd nifer fawr o bobol rhag ymuno â’r byd gwleidyddol ac am amddifadu pobol o’u hawliau dynol ac am ymosod ar eu gwrthwynebwyr.