Mae Cymru wedi colli cyfaill triw, a’r Gymraeg wedi colli pencampwr yn sgil marwolaeth yr awdur a’r cyn-athro Penri Jones, yn ôl Mabon ap Gwynfor, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd.
Wrth dalu teyrnged i Penri Jones, a fu farw ddoe (dydd Sul, Rhagfyr 19) wedi cyfnod o salwch byr, dywedodd Mabon ap Gwynfor mai ei “rodd fawr oedd sicrhau bod y Gymraeg yn rhywbeth cyfoes a chyffrous”.
Yn enedigol o Ben Llŷn, roedd Penri Jones yn un o gyd-sylfaenwyr cylchgrawn dychanol Lol, ac yn gyfrifol am greu’r cymeriad Jabas Jones.
“Mae’n newyddion andros o drist, mae rhywun yn estyn cydymdeimladau allan i’w anwyliaid oll yn eu galar achos mae Cymru wedi colli cyfaill triw, ac mae’r Gymraeg wedi colli pencampwr,” meddai Mabon ap Gwynfor wrth golwg360.
“Rhywun oedd wedi neilltuo ei fywyd i sicrhau dyfodol i’r Gymraeg, a sicrhau, yn fwy na hynny, fod y genhedlaeth iau yn gweld y Gymraeg fel rhywbeth oedd yn perthyn iddyn nhw – ei bod hi’n iaith fyw, yn iaith gyfoes, a’i bod hi’n rhan o fywyd bob dydd.
“Dyna, dw i’n meddwl, oedd rhodd fawr Penri i ni, i’r genedl, i’r byd, mewn gwirionedd, sicrhau bod y Gymraeg yn rhywbeth cyfoes, cyffrous.
“Mae ei hanes â’r Gymraeg yn berffaith amlwg, mae pawb yn gwybod am ei gyfraniad a’r ffordd wnaeth helpu Robat Gruffudd i greu Lol, oedd yn gylchgrawn pwysig ynddo’i hun, yn edrych ar Gymru mewn modd dychanol, ond yn gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae hynna mor bwysig, mae’n dangos fod yr iaith yn fwy nag iaith capel neu iaith ddosbarth, ei bod hi’n iaith chwerthin, iaith gwatwar, iaith gyffredin i bobol.
“Dw i’n cofio amser oeddwn i’n iau, darllen Jabas, ac yna gweld Jabas ar y teledu, a dangos yr iaith yn rhywbeth oedd yn perthyn i genhedlaeth iau, rhywbeth oedd yn cael ei hadlewyrchu ar y cyfryngau torfol, a hefyd yn dangos apêl i bobol ifanc, eu bod nhw’n gallu gweld eu hun ar y teledu, clywed eu hiaith nhw mewn modd cyffrous, byw.
“Mae hwnna’n andros o rodd ar ran Penri i Gymru, ei fod o wedi medru gwneud hynny, ac mae ein diolch iddo fo’n anferthol.
“Felly, wrth gwrs, dathlu bywyd oedd wedi rhoi gymaint, ond yn galaru am golled rhywun mor bwysig i’r Gymraeg, ond mae’r galar, wrth gwrs, yn llawer iawn mwy i’w deulu a’i anwyliaid o.”
‘Dyn y pethe’
Bu Penri Jones yn Gynghorydd dros Lanbedrog o 1996 nes 2012, ac yn ystod ei gyfnod bu’n ddeilydd portffolio addysg ar Fwrdd y Cyngor am sawl blwyddyn, gan chwarae rhan allweddol yn datblygu a gweithredu polisi iaith y sir.
Mewn teyrnged ar ran Grŵp Cynghorwyr Plaid Cymru Gwynedd, dywedodd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Plaid Cymru’r Sir, mai “gyda thristwch y clywsom am golli cyn wleidydd a chynghorydd Plaid Cymru Gwynedd dros Llanbedrog, Penri Jones”.
“Cenedlaetholwr, dyn y pethe, un oedd â dawn geiriau arbennig ac a ddylanwadodd ar gannoedd o blant fel athro,” meddai.
“Roedd yn fraint cydweithio â Penri oedd mor gadarn ei farn, gŵr cwbl ddiymhongar, dyn ei filltir sgwâr ac a oedd â chariad angerddol tuag at Gymru, y Gymraeg a phopeth oedd yn ymwneud â Llŷn.
“Da was, da a ffyddlon. Braint oedd cael ei adnabod ac anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf â’i deulu a’i gyfeillion.”
Dywedodd y Cynghorydd Simon Glyn, Cadeirydd presennol Cyngor Gwynedd, y bydd “coffa da” am Penri Jones fel aelod o’r cyngor.
“Gwasanaethodd Penri yn frwd dros ei ardal a thros Gymru am flynyddoedd lawer a bydd coffa da amdano fel aelod o Gyngor Gwynedd ac yn arbennig waith allweddol wrth ddatblygu polisi iaith y Sir,” meddai.
“Mae’n meddyliau ni heddiw gyda’i deulu yn eu colled.”