Mae cyrff tai cymdeithasol Cymru wedi croesawu Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys darparu £1bn ar gyfer tai cymdeithasol.

Cafodd y gyllideb ei chyhoeddi heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 20) gan Ysgrifennydd Cyllid Cymru, ac mae’n cynnwys buddsoddi £1.6bn o gyfalaf i ddarparu tai o ansawdd da, a darparu £375m tuag at ddiogelwch adeiladau.

Ariannu gwasanaethau cyhoeddus, ymateb i argyfyngau hinsawdd a natur, creu Cymru decach a chefnogi’r Rhaglen Lywodraethu yw’r mesurau sy’n sail i’r gyllideb.

Yn ogystal, mae’n cynnwys £100m tuag at y Rhaglen Tai Cynnes i geisio mynd i’r afael â thlodi tanwydd, ac mae cyfarwyddwr cenedlaethol Sefydliad Siartredig Tai Cymru (CIH) wedi croesawu’r gyllideb gan ddweud ei bod yn dangos “nad oes amheuaeth ynghylch blaenoriaeth y llywodraeth dros gefnogi tai cymdeithasol, fforddiadwy o safon uchel”.

“Rydyn ni’n gwybod bod y targed o 20,000 o dai cymdeithasol carbon isel, ynghyd â gwella safon tai sy’n bodoli’n barod a mynd i’r afael â phryderon ynghylch diogelwch adeiladu yn dasg enfawr mewn unrhyw hinsawdd,” meddai Matt Dicks.

“Ond er mwyn cyrraedd y nod hwnnw, mae CIH Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i roi sicrwydd am gyllid hirdymor fel bod ein haelodau, a’r mudiadau maen nhw’n gweithio iddyn nhw, yn gallu eu darparu nhw ar y raddfa a’r cyflymdra sydd ei angen.

“Heddiw, rydyn ni’n gweld bod yr ymrwymiad hwnnw ac yn croesawu uchelgais y Llywodraeth i greu dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy, lle bydd gan nifer mwy ohonom ni le sâff, fforddiadwy a chynaliadwy i’w galw’n gartrefi.

“Ond ar adeg o ansicrwydd sylweddol, gyda’r lliniaru parhaus ar y pandemig, prinder cyffredinol o ddeunydd adeiladu, a chostau byw yn effeithio’n sylweddol ar sawl aelwyd, rhaid i ni weld yr ymrwymiad heddiw fel man dechrau.”

‘Cyllid mwyaf erioed’

Mae Stuart Ropke, prif weithredwr Tai Cymdeithasol Cymru, yn croesawu’r gyllideb hefyd, gan ddweud ei bod yn cynnwys y buddsoddiad mwyaf erioed mewn tai cymdeithasol.

Mae’r £1bn sy’n mynd tuag at adeiladu tai cymdeithasol newydd yn cynnwys Grant Tai Cymdeithasol, sy’n dechrau ar £310m ar gyfer 2022, o gymharu â £250m eleni, ac yn cynyddu fesul blwyddyn.

“Rydyn ni’n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi camu ymlaen a chwrdd â’n her drwy ddarparu’r cyllid mwyaf erioed o £310m, gan godi i £325m erbyn 2024/25, ar gyfer anghenion tai cymdeithasol Cymru,” meddai.

“Mae’r pandemig wedi dangos i ni na fuodd tŷ cynnes, diogel a fforddiadwy erioed yn bwysicach.

“Bydd y sicrwydd tymor hir a’r cyllid ychwanegol sylweddol yn y cyhoeddiad heddiw yn cefnogi cymdeithasau tai yn eu gwaith wrth adeiladu miloedd o dai dros dymor y Senedd.”

Cyhoeddi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru “i gefnogi Cymru heddiw ac i lunio Cymru yfory”

Bydd £1.3bn o gyllid uniongyrchol ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd, a bydd busnesau’n cael rhyddhad o 50% oddi ar eu hardrethi y flwyddyn nesaf