Mae’r amrywiolyn Omicron yn parhau i ledaenu’n gyflym yng Nghymru, gyda 163 achos newydd wedi’u cyhoeddi heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 20).

Dyma’r nifer fwyaf i gael eu cofnodi mewn un diweddariad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan godi cyfanswm nifer yr achosion i 435.

Roedd y cynnydd uchaf i’w weld ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, gyda 36 achos newydd, ond Caerdydd a’r Fro sy’n parhau i fod â’r cyfanswm mwyaf o blith y byrddau iechyd, gyda 102.

Mae Dr Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol y Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio, wedi ailadrodd bod “cynnydd cyflym” o’r amrywiolyn i’w ddisgwyl dros y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

Cafodd wyth marwolaeth newydd sy’n gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yn ystod y 48 awr hyd at 09:00 fore Sul (Rhagfyr 19), tra bod 6,796 achos newydd o’r firws ledled Cymru.