Mae pôl gan YouGov ar ran ITV a Phrifysgol Caerdydd yn darogan tranc y Ceidwadwyr yng Nghymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae’n awgrymu y gallen nhw golli wyth sedd, i lawr i chwech, gyda’r seddi hynny yn mynd i’r Blaid Lafur.

Y seddi sydd dan sylw yw Aberconwy, Bro Morgannwg, De Clwyd, Delyn, Dyffryn Clwyd, Pen-y-bont ar Ogwr, Wrecsam ac Ynys Môn.

Daw hyn yn sgil sawl sgandal yn ymwneud â Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, yn ddiweddar – gan gynnwys cynnal nifer o bartïon yn groes i gyfyngiadau Covid-19 yn Downing Street a Whitehall y llynedd.

Mae lle i gredu bod yr helynt hefyd wedi cyfrannu at golli sedd Gogledd Sir Amwythig mewn is-etholiad yr wythnos ddiwethaf hefyd.

Yn ôl yr Athro Roger Awan-Scully o Brifysgol Caerdydd, mae’r sefyllfa ar lefel San Steffan wedi’i hailadrodd yng Nghymru, ac mae disgwyl i Lafur berfformio’n dda ac i Blaid Cymru lithro rywfaint ar ôl perfformio’n dda mewn pôl blaenorol yn yr hydref.

Ac mae’n dweud ei bod yn “ddiddorol nodi” nad yw’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwella ryw lawer.

Mae’r pôl yn seiliedig ar 40 o aelodau seneddol yng Nghymru, er y bydd y nifer yn gostwng i 32 cyn yr etholiad cyffredinol nesaf wrth i ffiniau’r etholaethau gael eu haddasu.