Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cyhoeddi eu bod nhw’n gohirio pob apwyntiad, llawdriniaeth a gweithdrefnau sydd ddim yn rhai brys tan ddechrau mis Ionawr.

Daw hyn wrth i staff gael eu dargyfeirio i weithredu’r rhaglen frechlyn atgyfnerthu, sydd wedi cael ei chyflymu mewn ymateb i fygythiad yr amrywiolyn Omicron.

Mae’n debyg bod y gyfradd frechu yn y gogledd wedi dyblu yn yr wythnos ddiwethaf, gyda’r nifer uchaf o frechlynnau (66,000) yn cael eu darparu, gan gynnwys 24,000 dros y penwythnos.

Mae’r bwrdd iechyd hefyd yn rhagweld y bydd nifer o’u gweithlu yn hunanynysu gydag achosion o Covid-19 yn yr wythnosau nesaf, gan roi pwysau pellach ar y gwasanaeth yn y gogledd.

Dywedon nhw eu bod nhw’n “betrusgar” wrth gymryd y camau diweddaraf, ond maen nhw’n sicr mai dyma yw’r “ffordd orau i amddiffyn eu gweithlu a darparu’r rhaglen frechu.”

Yn y cyfamser, bydd llawdriniaethau brys, fel triniaethau canser a gwasanaethau mamolaeth yn parhau ar draws tri ysbyty’r bwrdd iechyd.

Mae’r bwrdd iechyd yn gofyn i gleifion beidio â chysylltu â nhw ynglŷn ag apwyntiadau a llawdriniaethau, gan y bydd yr ysbytai yn gwneud hynny yn uniongyrchol maes o law.

‘Ymddiheuro’n ddiffuant’

Dywedodd Dr Nick Lyons, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Rydyn ni wedi cymryd y penderfyniad – yn betrusgar – i ohirio llawdriniaethau ac apwyntiadau cleifion allanol sydd ddim yn rhai brys tan 4 Ionawr, 2022.

“Dyma’r ffordd orau o amddiffyn ein gweithlu a darparu ein rhaglen frechu, sydd wedi’i chyflymu er mwyn ei chwblhau erbyn diwedd y mis hwn. O ganlyniad, bydd hyn yn helpu i amddiffyn ein gwasanaethau trwy gydol misoedd y gaeaf.

“Rydyn ni’n deall y bydd hyn yn newyddion gofidus i gleifion sy’n disgwyl cael llawdriniaeth neu apwyntiad dros yr wythnosau nesaf ac rwy’n ymddiheuro’n ddiffuant am hyn.

“Byddwn yn adolygu’r newidiadau hyn yn rheolaidd yng ngoleuni tystiolaeth sy’n dod i’r amlwg a chyfraddau trosglwyddo ledled Gogledd Cymru.”

‘Ergyd enbyd’

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer Gogledd Cymru, Darren Millar AS, bod y newyddion yn “ergyd enbyd” i’r holl bobol ledled y Gogledd sydd ar restrau aros y gwasanaethau iechyd.

“Bydd hyn yn peri gofid arbennig i’r 40,000 o bobol a mwy sydd wedi bod yn aros dros 12 mis am driniaeth,” meddai.

“Gall oedi hir arwain at ganlyniadau gwaeth i gleifion ac effeithio’n ddifrifol ar iechyd meddwl a lles pobol.

“Felly mae angen eglurder arnon ni ynglŷn â sut mae’r Bwrdd Iechyd a’r Gwasanaeth Iechyd yn gyffredinol yng Nghymru yn bwriadu dal i fyny gyda’r gwaith y maen nhw’n ei ohirio unwaith y bydd apwyntiadau a llawdriniaethau yn ailgychwyn.”

‘Mae’n ddarlun llwm’

Daw’r newyddion ar ôl i fwrdd iechyd Cwm Taf Bro Morgannwg, sy’n gyfrifol am ardaloedd Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, a Phen-y-bont ar Ogwr, yrru llythyr i gleifion yn eu hannog i helpu gwasanaethau lleol i oroesi dros y gaeaf.

Mewn llythyr ar y cyd â’r Gwasanaeth Ambiwlans Cymreig, dywedon nhw: “Mae’r gaeaf wedi cyrraedd. Fel arfer, byddai cynghorau lleol ac iechyd yn cwblhau ein cynlluniau ar sut y byddwn yn delio â’r pwysau y mae’r tywydd oerach yn ei ychwanegu bob blwyddyn.

“[Ond] mae eleni yn wahanol iawn, iawn. Mae’r pwysau ar ein holl wasanaethau eisoes yma a hynny cyn i ni gyrraedd uchafbwynt y gaeaf.

“Mae’n ddarlun llwm, ond rydyn ni am fod yn hollol onest â chi ynglŷn â maint yr her rydyn ni i gyd yn ei hwynebu.”

Gan restru’r pwysau y mae’n eu hwynebu, dywed y Bwrdd Iechyd fod adrannau brys yn hynod o brysur, bod gwasanaethau ambiwlans yn cael eu gwthio i’r pen, bod meddygon teulu dan bwysau, a felly hefyd y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan oherwydd gwaith i reoli Covid-19.

Ymhlith y ffyrdd o helpu, cynghorwyd pobl i gael brechlyn Covid-19, cael pigiad ffliw’r gaeaf, a pharhau i ddilyn rheolau fel gwisgo masgiau wyneb mewn lleoliadau dan do.