Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, y bydd digwyddiadau chwaraeon yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig yng Nghymru o Ddydd San Steffan ymlaen i helpu i reoli lledaeniad yr amrywiolyn newydd, Omicron.

Mae rhai clybiau pêl-droed eisoes wedi cyhoeddi bod gemau’r cyfnod Nadolig wedi’u gohirio oherwydd achosion o Covid-19 yn eu carfannau.

Mae Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi gohirio ei gêm ar Ddydd San Steffan yn erbyn Coventry, ac ni fydd Casnewydd yn croesawu Forest Green Rovers, chwaith.

Daw’r mesurau newydd – ar gyfer digwyddiadau chwaraeon dan do ac awyr agored ar bob lefel – wrth i’r ffigurau diweddaraf ddangos cynnydd sydyn pellach yn nifer yr achosion a gadarnhawyd o’r amrywiolyn.

Codi’n gyflym

Rhybuddiodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf am storm yn ymgynnull o heintiau omicron ar ôl cyfnod y Nadolig wrth i rai mesurau cadarnach gael eu cyflwyno o 27 Rhagfyr ymlaen.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod achosion Omicron yn codi’n gyflym ym mhob rhan o Gymru.

Mae cyfradd heintiau’r coronafeirws yn codi ac erbyn hyn, ledled Cymru, mae ychydig o dan 550 o achosion am bob 100,000 o bobl.

“Mae digwyddiadau chwaraeon dros gyfnod y Nadolig yn un o uchafbwyntiau mawr y flwyddyn,” meddai’r Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, “[ond] yn anffodus, mae’r amrywiolyn Omicron newydd yn ddatblygiad sylweddol yn y pandemig a gallai achosi nifer fawr o heintiau.”

Torfeydd nôl cyn gynted â phosib

“Mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu iechyd pobl a rheoli lledaeniad y feirws ofnadwy yma,” ychwanegodd y Prif Weinidog.

“Drwy gydol y pandemig rydym wedi dilyn cyngor gwyddonol ac iechyd y cyhoedd i gadw pobl yn ddiogel. Mae’r cyngor yn glir – mae angen i ni weithredu nawr fel ymateb i fygythiad omicron. Rydym yn rhoi cymaint o rybudd i bobl am y penderfyniadau hyn ag y gallwn ni.

“Bydd torfeydd yn dod yn ôl cyn gynted â phosib. Rydyn ni eisiau i bawb fod yma i fwynhau eu hoff chwaraeon.”