Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal rali flwyddyn nesaf i nodi 60 mlwyddiant ers i Saunders Lewis draddodi darlith ‘Tynged yr Iaith.’
Fe wnaeth yr araith sbarduno sefydlu’r mudiad yn 1962, ac fe gafodd eu protest gyntaf ei chynnal flwyddyn yn ddiweddarach ar Bont Trefechan yn Aberystwyth, wrth i ymgyrchwyr rwystro traffig ar y ffordd.
Ar 19 Chwefror 2022, bydd gorymdeithwyr yn teithio o’r bont i swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y dref, er mwyn galw arnyn nhw i gyflwyno Deddf Eiddo i sicrhau cartref i bob un yng Nghymru.
Dywed y Gymdeithas eu bod nhw’n croesawu’r mesurau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn y cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru, ond bod y “broblem yn ehangach na thai haf.”
Ymysg y mesurau yn y cytundeb rhwng y ddwy blaid mae cynllun peilot fydd yn profi mesurau i leihau nifer yr ail dai yn Nwyfor ac ymgynghoriad ar gyflwyno cais cynllunio os yw perchennog eisiau newid defnydd tŷ o gartref i dŷ gwyliau.
‘Daliwn i bwyso’
Bydd siaradwyr yn y rali Nid yw Cymru ar Werth yn cynnwys cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol, yr actor a’r canwr, Bryn Fôn, a chyn-gadeirydd y mudiad, Heledd Gwyndaf.
“Mae wedi dod yn amlwg yn ddiweddar fod pwysau pobl Cymru am gyfiawnder yn y farchnad dai ac am gamau i sicrhau’r hawl i fyw yn lleol wedi cael effaith sylweddol ar y llywodraeth,” meddai Osian Jones, un o drefnwyr y rali.
“Maen nhw wedi cyhoeddi camau i gyflwyno rheolau cynllunio newydd a threthi newydd posibl i atal colli gormod o’n stoc tai i’r farchnad ail gartrefi ac AirBnB.
“Ar ddechrau blwyddyn o ddathlu chwe deg mlwyddiant Cymdeithas yr Iaith mae’n gyfle i ni atgoffa’n hunain bod ymgyrchu’n talu ffordd heddiw gymaint ag erioed, felly mae angen dal i bwyso.
“Daliwn i bwyso i sicrhau na fydd y llywodraeth yn cyfaddawdu, ond yn blaenoriaethu cymunedau nid cyfalafiaeth. A daliwn i bwyso dros ymrwymiad i basio Deddf Eiddo gyflawn i sicrhau cyfiawnder o’r diwedd a pharhad i’n cymunedau trwy ystyried tai yn asedau cymdeithasol i ddarparu cartrefi, nid fel asedau masnachol i wneud elw.”
Mae 60 diwrnod tan y bydd y rali’n cael ei chynnal yn Aberystwyth, gyda mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi bob dydd yn ystod y cyfnod.
Dywed Cymdeithas yr Iaith bod y rali wedi cael ei threfnu yn unol â’r cyfyngiadau Covid cyfredol.