Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd staff gofal cymdeithasol yn derbyn y cyflog byw gwirioneddol yng Nghymru o flwyddyn nesaf ymlaen.

Daw hyn yn rhan o becyn gwerth £43 miliwn i gefnogi gweithwyr yn y sector, yn dilyn ymrwymiad i godi cyflogau yn y Rhaglen Lywodraethu.

Dywed y llywodraeth bod y cynllun yn “gam cyntaf tuag at godi cyflogau, ennyn parch, a chydnabod staff am eu cyfraniad eithriadol” yn ystod y pandemig.

Mae’r cyflog byw gwirioneddol ar hyn o bryd yn £9.90, ac yn cael ei gyfrifo gan felin drafod annibynnol a’i oruchwylio gan y Comisiwn Cyflog Byw.

Gall gweithwyr mewn cartrefi gofal, yn ogystal â gweithwyr gofal cartref a gwasanaethau oedolion a phlant ddisgwyl gweld eu cyflogau yn cynyddu o fis Ebrill 2022.

‘Cam cyntaf pwysig’

Fe gyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, y cynnydd mewn cyflogau heddiw (dydd Mawrth, 21 Rhagfyr).

“Mae gofal cymdeithasol yn wynebu pwysau sylweddol parhaus,” meddai.

“Drwy gydol y pandemig rydym i gyd wedi gweld y cyfraniad hanfodol y mae gweithwyr gofal cymdeithasol wedi’i wneud ac yn parhau i’w wneud bob dydd i’n system iechyd a gofal cymdeithasol.

“Mae hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at wella telerau ac amodau cyflogaeth y sector. Mae’n ymrwymiad hirdymor a bydd yn cymryd peth amser i’w roi ar waith.

“Bydd angen inni sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn ofalus ac mewn ffordd nad yw’n ansefydlogi’r sector.

“Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r holl randdeiliaid, y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol, Undeb, awdurdodau lleol a darparwyr i fwrw ymlaen â hyn.”

‘Mynd i’r afael â rhai o’r heriau’

Roedd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney, yn croesawu’r cyhoeddiad, gan ddweud y byddai’n lliniaru rhai o’r heriau yn y sector.

“Dylai pob gweithiwr gofal cymdeithasol deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu gwobrwyo a’u parchu am y gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud a’r rôl werthfawr maen nhw’n ei chwarae yn ein cymunedau,” meddai.

“Drwy gyflwyno’r Cyflog Byw Gwirioneddol a gweithio tuag at wella’r telerau ac amodau, rydym yn dechrau mynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r sector; yn arbennig recriwtio a chadw staff.”

“Clapio ddim yn ddigon”

Mae’r undeb gwasanaethau cyhoeddus Unsain wedi croesawu’r codiad cyflog, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, hefyd.

Dywedodd Karen Loughlin, ysgrifennydd cyffredinol Unsain Cymru: “Mae hwn yn gam cyntaf ymlaen i’w groesawu wrth fynd i’r afael â’r endemig o dlodi cyflog ac amodau gwael o fewn y sector, ac ar y cyd â’r ymrwymiad newydd i weithio tuag at sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol mae’n gyferbyniad amlwg â’r esgeulustod a’r diffyg gweithredu gan Lywodraeth San Steffan.

“Bydd Unsain yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r pryderon ehangach, i wella bywydau’r degau ar filoedd o weithwyr, y rhan fwyaf yn fenywod, sydd ar gyflog isel ymhob cymuned yng Nghymru.”

Mae Peter Garland, gofalwr sy’n aelod o’r undeb, wedi croesawu’r cyhoeddiad hefyd, gan ddweud y bydd yn “hwb hirddisgwyliedig i ddegau ar filoedd o ofalwyr yng Nghymru sy’n cael eu talu’r isafswm cyflog am edrych ar ôl ein pobol fwyaf agored i niwed”.

“Mae eu gwaith wedi cael ei danbrisio ers amser hir, ond mae’r ymrwymiad a’r proffesiynoldeb y gwnaethon nhw ei ddangos yn ystod y pandemig wedi deffro’r cyhoedd i’r gwasanaethau hanfodol maen nhw’n ei werthfawrogi.

“Doedd hi ddim yn ddigon clapio iddyn nhw, ac rydyn ni’n gwybod y bydd nifer yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y cyhoeddiad hwn heddiw.”