Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio merch 18 oed yn Sir Benfro, meddai Heddlu Dyfed Powys.

Mae Lewis Haines, 31, o Landyfai, Sir Benfro  wedi’i gyhuddo o ladd Lily Sullivan.

Cafwyd hyd i’w chorff ger Llyn y Felin ym Mhenfro yn oriau man fore dydd Gwener (17 Rhagfyr).

Mae Lewis Haines wedi mynd gerbron Llys Ynadon Hwlffordd bore ma (Dydd Mawrth, 21 Rhagfyr) ac mae disgwyl iddo fynd gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Iau (23 Rhagfyr). Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys eu bod yn gwerthfawrogi cefnogaeth y gymuned leol gan ychwanegu bod teulu Lily Sullivan yn parhau i gael cefnogaeth gan swyddogion arbenigol.

“Mae ein meddyliau gyda’r teulu yn ystod y cyfnod hynod o anodd yma,” meddai’r llefarydd.

Mewn datganiad dywedodd teulu Lily Sullivan ei bod yn ferch “clên a gofalus a fydd yn cael ei cholli gan bawb.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu’r ymchwiliad gysylltu gyda Heddlu Dyfed Powys neu’n ddienw drwy Taclo’r Taclau ar 0800 555111.