Omicron sydd i gyfrif am 73% o’r achosion newydd o’r coronafeirws yn yr Unol Daleithiau, meddai swyddogion iechyd.

Roedd ffigurau’n dangos bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr heintiadau mewn wythnos yn unig, yn ôl y Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC).

Mewn rhannau o’r wlad, mae nifer yr achosion yn uwch na hynny. Omicron sydd i gyfrif am oddeutu 90% neu fwy o achosion newydd yn ardal Efrog Newydd a rhannau eraill o’r wlad.

Mae’r cyfraddau’n awgrymu bod mwy na 650,000 o achosion o Omicron wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau wythnos ddiwethaf.

Ers diwedd mis Mehefin, amrywiolyn Delta oedd y math mwyaf cyffredin o’r coronafeirws yn yr Unol Daleithiau. Yn ôl ffigurau CDC, amrywiolyn Delta oedd i gyfrif am fwy na 99.5% o’r achosion coronafeirws hyd at ddiwedd mis Tachwedd.

“Brechu’n llawn”

Yn ôl cyfarwyddwr CDC, Dr Rochelle Walensky, mae’r ffigurau newydd yn adlewyrchu math o dwf sydd wedi bod mewn gwledydd eraill.

Roedd gwyddonwyr yn Affrica wedi rhybuddio am ledaeniad Omicron lai na mis yn ôl ac ar 26 Tachwedd roedd Sefydliad Iechyd y Byd wedi cyhoeddi bod yr amrywiolyn yn “achos pryder”. Mae bellach wedi ymddangos mewn tua 90 o wledydd.

Dywedodd Dr Amesh Adalja, uwch ysgolhaig yng Nghanolfan Diogelwch Iechyd Johns Hopkins:

“Os ydych chi’n mynd i gymdeithasu, os ydych chi’n mynd i gael unrhyw fath o fywyd, bydd Omicron yn rhywbeth rydych chi’n dod ar ei draws, a’r ffordd orau y gallwch chi fynd i’r afael a hyn yw cael eich brechu’n llawn.”

Dywedodd Dr Adalja nad oedd wedi ei synnu gan ddata CDC sy’n dangos mai Omicron yw’r math mwyaf cyffredin o achosion Covid yn yr Unol Daleithiau erbyn hyn, o ystyried yr hyn a welwyd yn Ne Affrica, y Deyrnas Unedig a Denmarc.