Does yna ddim digon o staff yn yr un o adrannau brys ysbytai Cymru, yn ôl ystadegau newydd.
Mae holl brif ysbytai Cymru’n methu â chyrraedd y ‘lefel sylfaen’ sy’n cael ei hargymell ar gyfer staffio’u hadrannau brys, meddai’r ystadegau.
Mae’r ‘lefel sylfaen’ yn cael ei osod gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys ar gyfer y nifer o ymgynghorwyr cyfwerth ag amser llawn a ddylai gael eu cyflogi mewn adran i sicrhau bod digon o staff.
Ar hyn o bryd, does yr un o ysbytai Cymru’n agos at gyrraedd y lefelau hynny, yn ôl ystadegau sydd wedi’u rhyddhau gan fyrddau iechyd Cymru i’r Ceidwadwyr Cymreig dan gais Rhyddid Gwybodaeth.
Adrannau brys ym mwrdd iechyd Cwm Taf sydd â’r lefel isaf o staff, gyda thri o’u prif ysbytai â rhwng 32% a 35% o’r staff sy’n cael ei argymell.
Yn ôl yr ystadegau, mae gan Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych (34%) ac Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg yn Hwlffordd (39%) lai na 40% o’r lefel sylfaen sy’n cael ei argymell hefyd.
Dangosodd yr ystadegau hefyd bod y cyllid ar gyfer talu ymgynghorwyr yn nhri ysbyty bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn is na’r lefel sylfaen.
Daeth i’r amlwg hefyd bod Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful wedi talu wyth ymgynghorydd, llai na hanner faint oedd yn cael ei argymell gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys.
Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd oedd â’r lefelau uchaf o staff, er mai 70% o’r staff sy’n cael eu hargymell sydd ganddyn nhw.
Mae’r ystadegau’n cyfeirio at y nifer o ymgynghorwyr oedd ar gael i staffio adrannau brys yn ystod wythnos lawn gyntaf mis Medi 2021.
Fis Hydref, cafodd y ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed wedi’u cofnodi gan adrannau brys ysbytai a’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.
“Peryglus o brin o staff”
Wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, ei bod hi’n amlwg bod “unedau brys yn parhau i fod yn beryglus o brin o staff, a’r effaith ar gleifion Cymru yw eu bod nhw’n wynebu amseroedd aros peryglus o hir cyn cael eu gweld mewn argyfwng”.
“Mae’r ffaith nad oes yr un ysbyty dros Gymru’n cwrdd â’r lefel sylfaen o staff gofynnol yn warthus ac mae anallu rhai i ariannu’r lefel isaf yn dangos bod rhywbeth wirioneddol o’i le gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol sy’n cael ei rhedeg gan Lafur.
“Roedd yr ystadegau diweddaraf yn dangos amseroedd aros hirach nag erioed yn adrannau brys Cymru.
“Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig yn rhoi pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond gan fod gwasanaethau unedau brys gorlawn yn ganlyniadau i bobol yn methu â chael mynediad at wasanaethau eraill fel meddygon teulu, mae’n dangos diffyg arweiniad o’r top.
“Mae Llafur wedi colli’i gafael ar y gwasanaeth iechyd, ac mae cleifion a staff yn talu’r pris.”
“Sicrhau gofal diogel”
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod salwch staff ac absenoldebau sy’n gysylltiedig â Covid wedi cael “effaith sylweddol” ar lefelau staffio, ond eu bod nhw wedi ymrwymo i sicrhau bod gan adrannau damweiniau ac achosion brys “nifer sylweddol o staff i sicrhau gofal diogel”.
“Mae pob Bwrdd Iechyd wedi rhoi cynlluniau ar waith i ddelio â phwysau’r gaeaf a’r pandemig, sy’n cynnwys sicrhau bod adrannau brys yn cael eu staffio gan weithlu amlddisgyblaethol i ateb y galw disgwyliedig,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd y lefelau uchaf erioed, o fwy na £260m, ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru.
“Bydd y buddsoddiad ar gyfer 2022/23, sy’n gynnydd o 15% ers 2021/22, yn gweld y nifer uchaf erioed o gyfleoedd hyfforddi yng Nghymru.
“Hwn fydd yr wythfed flwyddyn yn olynol i gefnogi addysg a hyfforddiant proffesiynol ym maes iechyd yng Nghymru.
“Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd a darparu’r gwydnwch a’r gallu angenrheidiol i Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.”
“Rydym yn disgwyl i’n damweiniau a’n brys fod yn brysur iawn dros gyfnod y gaeaf a byddem yn annog pawb i’n Helpu Ni, Helpu Chi drwy ystyried sut maen nhw’n cael gofal.
“Gall eich fferyllfa leol a’r gwasanaeth ar-lein 111 roi cyngor ar gyfer mân afiechydon ac anhwylderau.”