“Does dim cynllun i ddatblygu’r economi, gydag ambell eithriad bach,” yng Nghyllideb Ddrafft 2022-23 Llywodraeth Cymru eto, meddai’r economegydd Dr John Ball.
Nod y gyllideb yw “cefnogi Cymru heddiw a llunio Cymru yfory”, meddai Rebecca Evans, Gweinidog Cyllid Cymru.
Er bod elfennau i’w croesawu yn y gyllideb, a’i fod yn croesawu prydau ysgol am ddim, mae’r angen am y cynllun hwnnw’n “adlewyrchu stad wael yr economi”, meddai Dr John Ball.
Mae’r gyllideb yn cynnwys arian ar gyfer talu am gynlluniau sy’n rhan o’r cytundeb cydweithio rhwng Plaid Cymru a’r Blaid Lafur, sy’n cynnwys prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cynradd.
“Pwysigrwydd busnesau lleol”
Bydd mwy o arian yn cael ei neilltuo ar gyfer y Gymraeg ac i’r celfyddydau fel rhan o’r gyllideb, gan gynnwys arian i Theatr Clwyd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Yn ôl Dr John, cyn-ddarlithydd mewn economeg ym Mhrifysgol Abertawe, mae pobol yn tueddu i “anghofio” bod gan yr iaith a’r celfyddydau “rôl fawr i’w chwarae yn yr economi”.
Mae Dr John Ball wedi croesawu’r £4m sydd yn y gyllideb i roi hwb i ddatblygiad economaidd yn yr ardaloedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf, hefyd.
Mae hynny’n “gydnabyddiaeth o bwysigrwydd busnesau lleol a chreu swyddi”, meddai wrth golwg360.
“Mae’r mater yn ymwneud â thai mewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith yn un adnabyddus, ond mae argaeledd gwaith llawn mor bwysig.”
Dywedodd hefyd ei fod yn croesawu’r rhyddhad ar ardrethi busnes, a’i fod yn “cydnabod pwysigrwydd y diwydiant lletygarwch yng Nghymru, yn enwedig mewn llefydd gwledig”.
“Fodd bynnag, ni fydd yn dod i rym nes mis Ebrill.
“Mae’r £1.8bn mewn gwariant cyfalaf ar brosiectau gwyrdd yn ddiddorol os yw’n cael ei ddefnyddio fel arf ar gyfer datblygu economaidd, ond mae’n aneglur beth yn union fydd yn arian yn cael ei wario arno.”
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd yr arian yn mynd tuag at goedwig genedlaethol, economi gylchol, datgarboneiddio tai, ynni adnewyddadwy a llifogydd.
“Lle mae’r cynllun economaidd?”
Ond mae Dr John Ball yn gofyn lle mae’r cynllun economaidd yn y gyllideb.
“Gydag ambell eithriad bach, unwaith eto does dim cynllun i ddatblygu’r economi; ym mis Medi cyhoeddodd y llywodraeth “wariant strategol o lefel uchel” ond nid ar gyfer yr economi, ymddengys,” meddai Dr John Ball.
“O’r holl wariant arfaethedig, dim ond 2% sydd wedi’i neilltuo ar gyfer yr economi.
“Fel economegydd, er fy mod i’n croesawu prydau ysgol am ddim, mae hyn yn adlewyrchu stad wael yr economi a’r diffyg cyfleoedd economaidd.”
Mae’r gyllideb yn cynnwys £1.3bn o gyllid uniongyrchol ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd, a’r nod yw sicrhau gofal iechyd sy’n effeithiol, o ansawdd uchel, ac yn gynaliadwy, a’i helpu i barhau i ymateb i’r pandemig ac adfer wedyn.
“Yn wir, mae’r rhan fwyaf o’r gyllideb yn mynd tuag at iechyd, gan adlewyrchu, nid yn unig iechyd gwael yng Nghymru, ond bod rhan fwyaf o achosion iechyd gwael yn seiliedig ar ddiffyg cyfleoedd economaidd a swyddi.”