Bydd amserlen reilffordd frys yn cael ei weithredu ledled Cymru o ddydd Mercher, 22 Rhagfyr, ymlaen.

Yn dilyn cynnydd mewn achosion o’r amrywiolyn Omicron, mae Trafnidiaeth Cymru yn pryderu y bydd nifer o’u staff yn cael eu heffeithio ac y bydd bylchau yn eu gwasanaethau yn sgil hynny.

Yn ôl y corff sy’n gyfrifol am drenau cyhoeddus yng Nghymru, bydd rhwng 10% a 15% o’r amserlen gyfredol yn cael ei thorri am y tro er mwyn sicrhau bod teithiau ddim yn gorfod cael eu canslo ar fyr rybudd.

Mae teithwyr eisoes wedi gweld gwasanaethau’n cael eu canslo dros yr wythnosau diwethaf oherwydd prinder staff ac adnoddau, gan gynnwys dros 50 o drenau heddiw (dydd Mawrth, 21 Rhagfyr).

Roedd Network Rail yn nodi bod “lefelau uchel o salwch ar draws y diwydiant rheilffyrdd oherwydd y firws.”

Does dim cadarnhad am ba hyd fydd yr amserlen dros dro yn cael ei gweithredu, ond mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhagweld y bydd achosion o Omicron yn cyrraedd uchafbwynt yng nghanol mis Ionawr.

Dywed Trafnidiaeth Cymru y byddan nhw’n adolygu’r amserlen yn rheolaidd yn unol â’r sefyllfa Covid-19, gan ychwanegu y bydd eu gwasanaethau prysuraf yn cael eu blaenoriaethu.

‘Gwerthfawrogi y bydd hyn yn rhwystredig’

Roedd Colin Lea, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad Trafnidiaeth Cymru, yn ymddiheuro am unrhyw aflonyddwch.

“I raddau helaeth, rydyn ni’n dal i ddelio â phandemig ac wedi gweld cynnydd mawr yn absenoldebau cydweithwyr dros yr wythnosau diwethaf,” meddai.

“Ers dechrau mis Rhagfyr, mae nifer ein cydweithwyr rheilffyrdd sy’n absennol oherwydd Covid-19 wedi dyblu a bydd hyn yn parhau i gynyddu gyda’r risg barhaus o’r amrywiolyn Omicron newydd.

“Mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i redeg gwasanaethau mor ddibynadwy â phosibl i’n cwsmeriaid ac felly rydym yn cyflwyno amserlen newydd o ddydd Mercher, 22 Rhagfyr, gan leihau’r risg o orfod canslo gwasanaethau ar fyr rybudd.

“Lle bynnag y gallwn ni, byddwn yn defnyddio unrhyw gerbydau ychwanegol sydd ar gael oherwydd yr amserlen lai i redeg trenau hirach nag arfer, i gynorthwyo gyda phellter cymdeithasol a darparu trafnidiaeth ffordd ychwanegol, lle bynnag bo hynny’n bosibl.”

“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd hyn yn rhwystredig i rai cwsmeriaid, ac nid ydym wedi gwneud y penderfyniad hwn ar chwarae bach.  Gofynnwn i bob cwsmer wirio ar-lein cyn teithio a dilyn pob cyngor gan Lywodraeth Cymru.

“Hoffwn hefyd ddiolch i’n holl gydweithwyr sy’n parhau i weithio dan amodau anodd.”

Bydd modd i deithwyr sydd eisoes wedi prynu tocynnau trên eu defnyddio ar wasanaethau eraill, neu hawlio ad-daliad ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Absenoldebau

Mae gwasanaethau rheilffordd ledled Prydain wedi dioddef oherwydd lefelau Covid-19 dros yr wythnosau diwethaf, a bydd hynny’n gwaethygu dros y Nadolig mae’n debyg.

Dywedodd Rachel Heath, Rheolwr Gweithrediadau Network Rail ar gyfer Cymru a Western, bod “lefelau uchel o salwch ar draws y diwydiant rheilffyrdd.”

“Mae ein cydweithwyr yn gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau heriol iawn ac yn ymroddedig i gadw’r wlad i symud, fel y gwnaethant pan oedd y pandemig ar ei anterth,” meddai.

“Fodd bynnag, rydym ar hyn o bryd yn delio â lefelau uchel o salwch ar draws y diwydiant rheilffyrdd oherwydd y firws sydd, yn anffodus, yn golygu efallai y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd, ar fyr rybudd, sy’n effeithio ar wasanaethau rheilffyrdd.

“Byddwn yn parhau i roi diweddariadau clir ac amserol ar unrhyw newidiadau a allai effeithio ar deithiau teithwyr a gofynnwn i bawb wirio eu taith cyn teithio.”