Ni ddylai pobl drawsryweddol orfod aros dwy flynedd cyn cael cydnabyddiaeth gyfreithiol dros eu rhyw, yn ôl Aelodau Seneddol.
Dywedodd y Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb fod y gofyniad yn peryglu “sefydlu stereoteipiau rhywedd sy’n hen ffasiwn ac annerbyniol”.
Dadleuodd y pwyllgor hefyd y dylid dileu’r angen am ddiagnosis meddygol cyn cael cydnabyddiaeth gyfreithiol.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dweud ei bod yn gwneud y system bresennol yn haws i bobl.
Eleni mae Llywodraeth Cymru bellach wedi amlinellu ei chynlluniau i wneud Cymru y “genedl fwyaf cyfeillgar LGBTQ+” yn Ewrop.
Mae hyn yn cynnwys defnyddio’r holl bwerau sydd ganddi i wella bywydau pobl draws.
Fis Medi’r llynedd, gwrthododd gweinidogion wneud newidiadau sylfaenol i gyfreithiau cydnabod rhyw yng Nghymru a Lloegr, yn dilyn ymgynghoriad dwy flynedd.
Yn hytrach, maen nhw wedi dweud eu bod yn gwneud y broses ymgeisio yn “fwy caredig a symlach”, gan gynnwys lleihau’r ffi i wneud cais am dystysgrif adnabod rhyw o £140 i £5.
“Drud a biwrocrataidd”
Yn ôl Cyfraith Adnabod Rhyw 2004, mae hawl gan oedolion y Deyrnas Unedig i newid eu rhywedd os ydynt yn cyflawni meini prawf penodol.
Fodd bynnag, mae nifer o bobl draws yn dweud fod y system bresennol yn ddrud ac yn fiwrocrataidd.
Mae’n rhaid i’r rhai sy’n gwneud cais ddarparu dau adroddiad meddygol sy’n dangos diagnosis o “ddysfforia rhyw”, sy’n cael ei ddisgrifio gan y Gwasanaeth Iechyd fel “ymdeimlad o anesmwythyd y gallai person ei gael oherwydd diffyg cyfatebiaeth rhwng eu rhyw fiolegol a’u hunaniaeth o ran rhywedd”.
Mae’n rhaid i berson hefyd ddarparu tystiolaeth eu bod wedi byw yn eu rhywedd caffaeledig am o leiaf dwy flynedd ar ffurf pasbort neu drwydded gyrru.
Mae’r broses “hunan-adnabod”, a oedd yn caniatáu newidiadau i dystysgrifau geni heb ddiagnosis meddygol, yn un o’r syniadau a gyflwynwyd mewn ymgynghoriad a gynhaliwyd gan y Llywodraeth Geidwadol ddiwethaf, dan arweiniad Theresa May.
O’r 102,818 o ymatebion a gafwyd, dywedodd 64% na ddylai fod yn ofynnol cael diagnosis o ddysfforia rhyw yn y dyfodol, ar y sail nad oedd bod yn draws yn fater meddygol nac iechyd meddwl.
Fodd bynnag, ym mis Medi 2020 dywedodd Llywodraeth y DU na fyddai’n newid y gofyniad na’r rheol rhyw dwy flynedd a gaffaelwyd yng Nghymru a Lloegr, gan ddadlau bod “y cydbwysedd a gafwyd yn y ddeddfwriaeth hon yn gywir”.
“Dileu’r gofyniad dwy flynedd”
Mewn adroddiad syn adolygu’r ddeddfwriaeth, mae’r pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Seneddol am weld y gofyniad dwy flynedd yn cael ei ddileu gan ddadlau bod “problemau sylweddol” gyda’r rheol a bod “dim diffiniad clir, derbyniol na chytunedig o beth yw byw fel dyn neu fenyw”.
“Mae’r gofyniad hefyd yn cynnig risg i gynnal agweddau hen-ffasiwn sy’n annerbyniol,” meddai’r adroddiad.
Galwodd y pwyllgor hefyd ar Lywodraeth y DU i ddileu’r angen am ddiagnosis dysfforia rhyw erbyn 2023.
Ychwanegodd y dylai gofyniad i ymgeiswyr wneud datganiad cyfreithiol y byddant yn byw yn eu rhyw a gaffaelwyd barhau, gan ei alw’n “amddiffyniad hanfodol” i sicrhau eu bod yn gwneud hynny gyda “bwriad gwirioneddol”.
Wrth ymateb i’r adroddiad, dywedodd llefarydd ar ran Hwb Cydraddoldeb y llywodraeth – sy’n canolbwyntio ar hawliau LHDT – fod y gyfraith bresennol yn “effeithiol” ac yn caniatáu i “y rhai sy’n dymuno newid eu rhyw yn gyfreithiol wneud hynny”.
Ychwanegodd bod y llywodraeth wedi bod yn “cymryd camau i foderneiddio” y broses o wneud cais am dystysgrif cydnabod rhyw mewn ymateb i’w hymgynghoriad.
Roedd hyn yn cynnwys camau i leihau’r gost a’i gwneud hi’n bosib i bobl wneud cais ar-lein, meddai’r llefarydd.