Mae Carwyn Jones, cyn-brif weinidog Cymru, yn dweud y dylai pobol fod yn “llai beirniadol” o safon Cymraeg llafar ac ysgrifenedig pobol.

Mae’n rhybuddio bod diffyg hyder pobol yn eu Cymraeg yn effeithio ar ganlyniadau’r Cyfrifiad, gan gamliwio nifer y siaradwyr Cymraeg.

Daeth ei sylwadau wrth iddo ymddangos fel golygydd gwadd Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

“Yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru, yn y Cyfrifiad maen nhw’n dodi eu hunain lawr fel pobol sydd yn deall Cymraeg ac nid eu bod nhw’n siarad Cymraeg, ac o achos hynny, ni’n colli siaradwyr Cymraeg er bo nhw’n dal i fod yna ond dyw nhw ddim yn ystyried eu hunain fel siaradwyr Cymraeg,” meddai.

“Bydden i byth wedi wneud hwn 20 mlynedd yn ôl.  Bydden i byth wedi sefyll ar ‘y nhraed a siarad yn Gymraeg yn gyhoeddus yn enwedig heb nodiadau.  Erbyn hyn, dwi’n ddigon cyfforddus i wneud hynny,” meddai.

Gyrfa

Roedd Carwyn Jones yn Brif Weinidog ac yn arweinydd Llafur Cymru rhwng 2009 a 2018, ond fe gamodd o’r neilltu fel Aelod o’r Senedd dros Ben-y-bont ar Ogwr ym mis Mai ar adeg Etholiad y Senedd.

“Un o’r pethau o’n i moyn sicrhau oedd bod pobol yn clywed llais ac acen dwyrain Sir Gâr mewn ffordd a Gorllewin Morgannwg a gweld bod e’n bosib i ddefnyddio’r Gymraeg a clywed llais fel ‘yn llais i, ‘yn acen i.

“Es i ddim i ysgol Gymraeg, doedd yna ddim ysgol Gymraeg yn yr ardal ac roedd Mam yn dysgu mewn ysgol Saesneg felly fe es i ysgol Saesneg ond Cymraeg roeddwn i’n siarad yn y tŷ.

“Mae’n gam arall wrth ysgrifennu yn Gymraeg a phan mae pobol yn siarad Cymraeg, dydyn ni ddim yn erfyn arnyn nhw i fod yn berffaith ond ni’n erfyn ar bobol i ysgrifennu yn Gymraeg yn berffaith, sy’n gam arall.”

“Oedd e’n daith bersonol i fi hefyd i sicrhau bod yr hyder gyda fi i ddefnyddio’r Gymraeg tu fas i’r cyd-destun cymdeithasol yna.”

Fe groesawodd Samuel Kurtz Samuel, llefarydd Materion Gwledig a’r Gymraeg y Ceidwadwyr Cymreig,  sylwadau’r cyn-brif weinidog.

 

“Braf clywed hwn o’r cyn-briweinidog @AMCarwyn – roedd fy hyder i siarad Cymraeg yn ffurfiol, mewn lleoliad gwleidyddol, yn isel,” meddai ar Twitter.

“Ond gan ymarfer a gyda gwersi mae’r hyder yn tyfu! Mae rhai pobol teimlo’n gyfforddus i ddefnyddio’r iaith, beth bynnag eich safon.”

Argyfwng ail dai

Yn ystod y cyfweliad, fe gyfeiriodd Carwyn Jones at yr angen i “ystyried system newydd” er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng ail dai.

Yn ôl y cyn-brif weinidog, mae’r sefyllfa o ran y farchnad dai wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Y ffordd yn draddodiadol wnaethon ni edrych i ddatrys y broblem oedd adeiladu mwy a mwy o dai… erbyn hyn falle bod rhaid ystyried rhywbeth arall”, meddai.

Mae’n ystyried mai un ffordd o fynd i’r afael â hyn yw creu marchnad leol yng Nghymru fel sy’n cael ei defnyddio ar Jersey a Guernsey.

“Mae hwn yn rhywbeth mae’n rhaid i ni ystyried fel ffurf o gyfiawnder cymdeithasol – rhoi’r cyfle i bobol i fyw yn yr ardal lle maen nhw wedi cael eu magu,” meddai.

Dywed fod gweinidogion Llywodraeth Cymru yn “deall y neges,” a’u bod nhw’n adeiladu tai fforddiadwy i ddelio â’r sefyllfa fel gwnaeth ei lywodraeth ef.

“Ond yn amlwg mae’n rhaid gwneud mwy,” meddai.

“Chi’n prynu tai pan maen nhw’n dod ar y farchnad agored, tynnu nhw o’r farchnad hynny, wedyn eu gwerthu nhw o fewn marchnad leol.”

Ar Guernsey, mae’n rhaid cael trwydded arbennig er mwyn byw mewn tŷ ar y farchnad leol.

Ond fe rybuddiodd y byddai angen “llawer o waith” wrth edrych ar gyflwyno cynllun tebyg yng Nghymru.

Cnoi cil ar y flwyddyn a fu gyda Carwyn Jones

Jacob Morris

“Mae yna fwy o fygythiad i ddiogelwch ein gwleidyddion nag erioed o’r blaen a’r peiriant sy’n creu hynna yw’r cyfryngau cymdeithasol”