Aeth tair blynedd heibio ers i Carwyn Jones gamu o’r neilltu fel Prif Weinidog Cymru, ond mae’r gŵr fu’n un o gonglfeini’r Blaid Lafur Gymreig yn mynnu ei fod dal yn “rhan o’r byd gwleidyddol”.
Ac yntau yn Aelod o Bwyllgor Gwaith y Blaid Lafur ac Athro’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth mae ei ddiwrnodau’n llawn, ond mae’n yn cyfaddef i’w fywyd arafu’n sylweddol ers cefnu ar Fae Caerdydd.
Ac wrth eistedd yn ei stydi, ble mae’r cyn-Brif Weinidog yn treulio’r rhan fwyaf o’i amser erbyn hyn, mae’n rhannu wrth gylchgrawn Golwg ei farn am y flwyddyn wleidyddol a fu a’i fywyd y tu hwnt i gyfarfodydd cabinet, cynadleddau’r Wasg a cheir gweinidogol.
“Mae’n neis bod y pwysau ddim yna, o ran terfynau amser ac yn y blaen, does dim pwysau prif weinidogol o wynebu rhywbeth newydd bob dydd a delio gyda sawl peth ar yr un pryd,” meddai.
Fe fuodd Carwyn Jones yn enw oedd i’w glywed ar aelwydydd ar hyd a lled Cymru, ond does dim gwadu fod proffil ei olynydd Mark Drakeford yn llawer mwy eang yn sgil y pandemig.
Ond fel un o wleidyddion pennaf Cymru am bron i ddegawd rhwng 2009 a 2018, dydy e ddim yn dyheu am fod nôl yn swydd dan yr amgylchiadau presennol.
“Byddwn i ddim moyn newid lle gyda [Mark Drakeford],” meddai.
“Fyddwn i ddim am fod yn ei esgidiau ef nawr.
“Oes, mae ganddo blatfform llawer yn fwy na chefais i erioed, ond bydden i fyth wedi dewis fod dan yr amgylchiadau mae ef nawr.”
Y gwir yn llifo fel y gwin?
Ddechrau’r flwyddyn fe ddaeth i’r amlwg fod gwleidyddion ym Mae Caerdydd wedi bod yn yfed yn y Senedd cyn y Nadolig, a hynny ddyddiau’n unig ers i dafarnau gael eu gorchymyn gan Lywodraeth Cymru i gau.
Gwelwyd y Ceidwadwyr Darren Millar a Paul Davies ynghyd â’r Llafurwr Alun Davies, cyn- weinidog o gabinet Carwyn Jones, yn mwynhau gwin.
Gyda sôn am bartïon gwyllt yn Downing Street yn dod i’r amlwg ar hyn o bryd, mae Carwyn Jones yn mynnu fod angen i wleidyddion ofalu i beidio â cholli tryst y bobl.
“Rwy’n credu bod yn rhaid i wleidyddion gadw at safon uwch na’r boblogaeth gyffredin, ac roeddwn i wastad yn cadw hynny mewn cof pan oeddwn innau’n Brif Weinidog.
“Y broblem yn Llundain nawr yw bod cymaint o reolau yn cael eu torri, mae ymddiriedaeth pobl mewn gwleidyddion dan fygythiad.
“Pa fath o enghraifft yw hyn oll i bobl, i bobl ifanc yn enwedig, wrth i ni ddilyn y rheolau tra bod pobl mewn grym yn anwybyddu rheolau ac ar eu hennill?”
Etholiadau’r Senedd 2021
Uchafbwynt y flwyddyn wleidyddol yma yng Nghymru oedd Etholiadau’r Senedd fis Mai.
Bu i’r Blaid Lafur ddal ei thir yn erbyn heriau gan y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru ac ennill 30 sedd, dim ond un yn brin o’r mwyafrif cyntaf erioed yng Nghymru.
Y brif wrthblaid oedd y Ceidwadwyr gyda 16 sedd, gydag etholiad siomedig i Adam Price wrth i Blaid Cymru ennill 13 sedd ar lawr y siambr. A bu i Jane Dodds arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol gamu i fwrlwm Bae Caerdydd gydag unig sedd ei phlaid.
Gwelwyd cyn-arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood yn colli’r Rhondda i Lafur.
Hefyd, trodd Llafur fwyafrif bychan yn Llanelli yn swing o 8.7% mewn sedd darged i Blaid Cymru.
Doedd neb yn gallu rhagweld y byddai Mark Drakeford yn cael y fath gyhoeddusrwydd yn sgil Covid, ac roedd y sylw yn gymorth iddo adeg etholiad fis Mai.
O gynadleddau’r Wasg i gael ei weld yn siopa yn Lidl, mae’r pandemig wedi gwneud gwyrthiau i’w ddelwedd ac mae’r gwleidydd gwylaidd yn adnabyddus ar lawr gwlad a’i enw i’w glywed ar aelwydydd ar hyd a lled Cymru.
“Un peth dw i wedi sylwi dros y flwyddyn a hanner diwethaf yw bod Boris Johnson wedi mynd lawr a Mark Drakeford wedi codi ym marn bobol,” meddai Carwyn Jones.
“Bydde Mark ddim yn dweud hyn ei hun, ond mae’r ffordd wnaeth e ddelio gyda Covid wedi ennill ymddiriedaeth pobol Cymru a chanlyniad hynny oedd yr hyn a ddigwyddod fis Mai.
“Does neb yn gwybod beth sydd rownd y gornel ac ar ddechrau Covid doedd neb, gan gynnwys gwleidyddion pennaf, yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen.”
Ond gyda Phrif Weinidog presennol Cymru’n addo camu o’r neilltu erbyn etholiad 2026, mae rhai eisoes yn ceisio dyfalu enwau posib fydd yn camu i’r adwy.
Mae Eluned Morgan y Gweinidog Iechyd a Jeremy Miles, y Gweinidog Addysg a’r Gymraeg cael eu hystyried yn olynwyr posib.
Ond dydy Carwyn Jones ddim am ddatgan ei gefnogaeth i’r un ymgeisydd ar hyn o bryd.
“Y peth diwethaf fydde [Llafur Cymru] moyn yw rhyw sylw gan gyn-Brif Weinidog,” meddai.
“Ers yr etholiad mae [Mark Drakeford] wedi ennill yr hawl i ddewis pryd mae am adael, a dw i’n siŵr wneith e ddatgan hynny o flaen llaw – wnes i ddim o hynny, ac roedd hynny’n gamgymeriad.”
Diogelwch gwleidyddion
Yn sgil protestiadau yn erbyn cyfyngiadau Covid, fe wnaeth grŵp o bobl dargedu cartref Mark Drakeford yn y brifddinas, gyda Carwyn Jones ar y pryd yn dweud fod yr ymgyrchwyr wedi “croesi llinell”.
Daeth galwadau dros yr haf am gael cartref swyddogol i Brif Weinidog Cymru, ond dydy’r cyn-Brif Weinidog ddim am weld hynny.
“Dw i’n meddwl bod dychwelyd adref bob nos i dŷ a theulu normal ac i amgylchiadau normal, yn fodd o gadw traed rhywun ar y ddaear.
“Dydw i ddim yn teimlo bod angen cartref swyddogol. Ond pwy a ŵyr petai rhywun yn dod yn Brif Weinidog o’r gogledd – a gobeithio bydd hynny’n digwydd rhywbryd – efallai bydd pethau’n wahanol.”
Mae diogelwch gwleidyddion hefyd wedi dod i’r fei eleni.
Ar y noson ym mis Hydref pan bleidleisiodd Aelodau o’r Senedd tros gyflwyno pasys Covid, fe orchmynnodd staff diogelwch i’r AoSau aros yn Nhŷ Hywel gan fod torf y tu allan.
Yn sgil hynny ym mis Tachwedd daeth dorf at risiau’r Senedd gyda’r Llywydd, Elin Jones, yn penderfynu cau’r cyhoedd allan.
“Mae yna fwy o fygythiad i ddiogelwch ein gwleidyddion nag erioed o’r blaen a’r peiriant sy’n creu hynna yw’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai Carwyn Jones.
“Buodd diogelwch o fy nghwmpas i ac roeddwn i mewn dwylo da ac roedd lefel y diogelwch yn mynd lan a lawr yn ddibynnol ar beth oedd yn digwydd.
“Doedd yna byth ddiogelwch o flaen fy nhŷ er bod pobl [leol] yn meddwl bod yna, a doedd byth diogelwch o fy amgylch wrth gerdded rownd, er bod pobl yn meddwl bod yna.”
Buodd llofruddiaeth yr Aelod Seneddol David Amess wrth gyfarfod ei etholwyr mewn syrjyri ym mis Hydref yn foment sobreiddiol, gan godi cwestiynau sylfaenol ynghylch diogelwch ein cynrychiolwyr etholedig.
“Mae pethau llawer mwy cas yn digwydd erbyn hyn,” meddai Carwyn Jones. “Roedd yna wastad pobl gas a chreulon yn bodoli, ond mae pethau wedi troi’n sylweddol waeth yn yr hinsawdd sydd ohoni.”
Cytundeb Llafur-Plaid
Dros yr Haf roedd sïon bod Llafur a Phlaid Cymru yn chwilio yn dawel bach am ffyrdd o gydweithio.
Daeth hanes y trafodaethau i olau dydd ym mis Medi, ond bu yn rhaid aros tan fis Tachwedd am gadarnhad o gytundeb i gydweithio mewn 46 o feysydd polisi ar gyfer llywodraethu’r wlad.
“Mae’n siwtio’r ddwy blaid, ac mae’r ddwy yn cynrychioli 60 y cant o etholwyr Cymru, felly mae’r mwyafrif o bobol Cymru’n cael eu cynrychioli tu fewn i’r cytundeb ei hun,” meddai Carwyn Jones.
Mae wedi hen arfer â tharo bargen gyda phleidiau eraill. Roedd yn rhan o glymblaid Cymru’n Un rhwng Llafur a Phlaid Cymru yn 2007, a thra yn Brif Weinidog fe ddaeth Kirsty Williams, y Democrat Rhyddfrydol, yn Weinidog Addysg yn ei gabinet.
“Mae hyn yn dangos ein bod ni’n ddigon aeddfed yng Nghymru ein bod ni’n gallu cydweithio’n drawsbleidiol pan fod angen gwneud hynny,” meddai.
“Wrth gwrs byddwn i’n hoffi sicrhau mwyafrif a [bod Llafur yn] llywodraethu ar eu pennau eu hunain, dyna beth yw natur gwleidyddiaeth. Ond dw i’n credu ei bod hi’n hollbwysig [taro bargen]. Dw i’n meddwl y bydd y cyhoedd am weld hyn hefyd i bleidiau gydweithio â’i gilydd er mwyn wado ’malen â’r jobyn o lywodraethu.
“Mae yna ddiwylliant gwahanol gyda ni yng Nghymru o’r modd ni fel plaid yn gwneud gwleidyddiaeth, ac rydyn ni wedi gweld hynny gyda’r cytundeb Llafur-Plaid, sy’n rhywbeth iach.”
Yn eu cytundeb mae’r ddwy blaid yn addo cydweithio ar amryw feysydd, o ddelio â’r argyfwng Tai Haf, i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, i brydau ysgol am ddim.
Ond dydy Mark Drakeford ddim am weld ymchwiliad covid penodol i Gymru, ac yn hytrach am fod yn rhan o ymchwiliad ar lefel Brydeinig.
Bydd yr Alban yn cynnal ymchwiliad penodol ei hun.
Ac mae Carwyn Jones yn mynnu nad oes unrhyw gynllwyn ar y gweill i osgoi craffu a chuddio.
“Dim o gwbl,” meddai. “Dydy hi ddim yn gwneud synnwyr cael ymchwiliad Covid penodol i Gymru gan fod yna gymaint o ffactorau gwahanol fel y cynllun ffyrlo oedd yn dod gan drysorlys Llywodraeth y DU.
“Os ydych chi’n cael ymchwiliad penodol Cymreig, y broblem yw y byddech chi ddim yn gallu cael yr holl dystion rydych chi moen i droi lan yna.
“Bydde rhai cyrff sy’n atebol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, yn syml iawn fydden nhw ddim yn dod, a bydde ddim modd i gael nhw i ddod.”
‘Taflu pwerau at y Celtiaid’
Mae annibyniaeth hefyd yn destun sydd wedi cael cryn sylw eleni, ac nid yn unig o fewn rhengoedd YesCymru, ond ym Mae Caerdydd hefyd.
Bydd comisiwn newydd dan gadeiryddiaeth Yr Archesgob Rowan Williams a’r Athro Laura McAllister yn edrych ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru.
Ond diwygio’r Deyrnas Unedig hoffai Carwyn Jones ei weld, yn hytrach na Chymru yn torri ei chŵys ei hun yn annibynnol.
“Mae’r Deyrnas Unedig yn rhywbeth y ddylai fod yn bartneriaeth wirfoddol, dydw i ddim yn ffan mawr o ryw sofraniaeth seneddol Llundain, ac mae’r syniad yna’n dechrau gweld diwedd ei ddyddiau nawr.
“Hoffwn i weld ryw fath o ffederasiwn, fel mae rhai yn ei alw. Undeb sydd wirioneddol yn undeb o bartneriaid teg a chydradd.
“Mae datganoli o safbwynt San Steffan wedi cael ei ystyried fel modd o daflu pwerau at y Celtiaid, heb edrych ar strwythur gyfan gwbl y Deyrnas Unedig ac effaith hynny ar ddyfodol yr Undeb.
“Dim ond nawr rydyn ni’n cael y sgyrsiau cyfansoddiadol yma, a dydy’r sgyrsiau yma heb gael digon o sylw hyd yma.”
Cymru 2022
Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, nôl yn y Bae ers cymryd hoe o’i ddyletswyddau yn sgil ei iechyd, ac mae’r Senedd yn parhau i weithio’n hybrid.
A gyda Chymru wedi gweddnewid dros y flwyddyn ddiwethaf oherwydd Covid, mae Carwyn Jones yn barod i gofleidio’r dyfodol.
“Un o’r pethau, ar ôl dod mas o yrfa wleidyddol, yw newid agwedd bywyd. Ti’n mynd trwyddo dy yrfa wleidyddol yn meddwl: ‘Reit, beth sydd nesaf?’ Ac fe fues i’n lwcus i gyrraedd copa gwleidyddiaeth Cymru,” meddai.
“Ond chi’n gorfod rhoi’r bywyd a’r llwybr uchelgeisiol i’r naill ochr ac ystyried beth sydd o’ch blaen chi.”
Ac mae ganddo air o gyngor i Brif Weinidog Cymru: “Cofia fe ddaw’r dydd pan fydd hyn oll drosodd, pan fydd hyn oll yn hanes.
“Does neb yn gwybod pryd, ond mae’n rhaid i Mark [Drakeford] gofio bydd ei fywyd e ddim fel hyn am byth.
“A dw i’n meddwl fod hynny’n fodd o dynnu peth pwysau bant o ysgwyddau unrhyw un sy’n Brif Weinidog.”