Y llyfr dw i ar ganol ei ddarllen 

Wrth ymddeol o’m gwaith fel athrawes Gerddoriaeth eleni, cefais lyfr Helgoland Carlo Rovelli yn anrheg gan gydweithiwr disglair ac annwyl iawn. Mae’n gwybod yn iawn nad wyf yn deall dirgelion ffiseg quantum, ond yn ymwybodol y byddwn wir yn mwynhau ymbalfalu mewn trafodaeth am ramadeg y byd a’n lle yn y bydysawd. Newydd ddechrau darllen, ac roedd fy nghyfaill yn gwbl gywir ym mhob ffordd.