Mae’r ferch fferm 31 oed o Landysilio yn Sir Benfro, Jessica Robinson, yn byw yn y brifddinas, yn gantores opera, yn arwain côr Only Boys Aloud, newydd ddyweddïo, ac wedi mentro i fyd cyflwyno teledu…
Sut brofiad oedd ffilmio gefn llwyfan yn Steddfod y Ffermwyr Ifanc ar gyfer S4C?
Achos bo fi’n nabod y mudiad a’r bobol mor dda, roedd yn neis cael catch-up gyda phobol sa i wedi gweld ers sbel achos Covid.
A doeddwn i ddim yn siŵr sut y bydden i yn teimlo am gyflwyno ar deledu, ond bydde fe bendant yn lyfli cael gwneud ychydig bach mwy.
Fuoch chi yn aelod o’r Ffermwyr Ifanc felly?
Wnes i ddechre gyda nhw yn ddeg oed fel cantores, ar ôl cael gwahoddiad i gynrychioli Clwb Clunderwen mewn steddfod.
Mae’r holl deulu wedi bod ynghlwm â’r mudiad – roedd mam a mam-gu a dad-cu yn aelodau yng Nghlunderwen… ac roedd dad mewn rival club, Hermon!
Hyd yn oed pan oeddwn i yn y Coleg Cerdd a Drama, os oedd cystadleuaeth neu rywbeth ymlaen, byddwn i nôl a mlaen ar yr M4 i gystadlu… siarad cyhoeddus, barnu stoc, ac yn enwedig tynnu rhaff.
Ydy’r busnes tynnu rhaff yn golygu eich bod yn eithaf cystadleuol?!
Yn bendant!
Roedd mam a dad wedi tynnu rhaff, felly roedd e’n inevitable bo fi am wneud.
A ro’n i yn tynnu rhaff dros Gymru ym Mhencampwriaeth Prydain.
Sut brofiad oedd tyfu lan ar fferm laeth?
Dw i yn un o bedwar o blant a siŵr o fod y ffermwr gwanaf, achos dw i yn rhy emosiynol pan dw i’n gweld pethau yn marw!
Ond dyna’r fagwraeth orau, bod mas yn y wlad. A sa i’n credu bod fi wedi gwerthfawrogi fe’n iawn tan bo fi wedi symud ffwrdd i Gaerdydd.
Ceffylau a chŵn oeddwn i’n mwynhau, ac o hyd yn cael rhyw lo i edrych ar ei ôl pob blwyddyn.
Faint o her ydy cynnal gyrfa yn gantores opera?
Mae e yn gystadleuol iawn, a’r peth mwyaf anodd yw eich bod chi o hyd yn gorfod gwneud clyweliadau pob blwyddyn, a so chi’n gwybod lle mae’r swydd nesaf.
A hefyd mae dysgu’r ieithoedd gwahanol [yn her], gyda’r operâu i gyd yn Eidaleg neu Ffrangeg.
Ond dyna beth rydw i yn mwynhau.
Rydych chi’n dysgu’r gerddoriaeth, dysgu’r geiriau, dysgu’r stori, wedyn dod at eich gilydd ac ychwanegu’r elfen o ddrama, rhoi’r actio mewn. Wedyn mae’r gerddorfa yn dod mewn, ac mae’r haenau gwahanol yn cael eu hychwanegu. Mae e’n rhoi boddhad mawr.
Beth arall ydych chi’n ei wneud o ran gwaith?
Rhoi gwersi canu yn breifat ac arwain côr Only Boys Aloud.
Hefyd rwy’n arwain The Forget Me Not Chorus, sef côr i bobol sydd yn dioddef gyda dementia.
Beth yw eich atgof cynta’?
Mae darn o’r tŷ gartref ar y fferm wedi ei droi mewn i salon, achos mae mam yn trin gwallt.
Ac ers oeddwn i yn fach fach fach, achos bod mirrors mawr, bydden i yn sefyll ar ben stôl, gyda brwsh gwallt, yn canu.
Beth yw eich ofn mwya’?
Llygod mawr – ac mae hwnna, am ferch ffarm, yn drychinebus!
Pan oeddwn i ryw wyth oed, es i mas i’r shed a rhoi fy nwylo fewn i sach o fwyd ceffyl, ac wrth ddod mas â’r dwylo wnes i weld y llygoden yma… ac ers hynny rydw i yn petrified…
Beth ydych chi’n ei wneud i gadw’n heini?
Mynd â Sblot y ci defaid am dro yn y goedwig ger Llandaf a’r Tyllgoed.
Hefyd, er bo fi yn CASÁU rhedeg, yn y cyfnod Covid wnes i gwblhau y couch to five k.
A wnes i basio fel athrawes zoomba, cwpwl o flynyddoedd yn ôl, a fi wir yn mwynhau e.
Beth sy’n eich gwylltio?
Pobol sydd heb faners.
Pwy fyddech chi’n gwahodd i’ch pryd bwyd delfrydol… a beth fyddai’r wledd?
Shirley Bassey. Roeddwn i yn ffodus iawn i gael canu yn Buckingham Palace, ac roedd hi yn y rhes flaen.
Roedd pawb mor serious, ac roedd hi yna yn joio, dawnsio a chanu.
A ges i sgwrs gyda hi wedyn, ac roedd hi llawn bywyd, llawn sbort.
Felly ie, joien i bryd o fwyd Chinese gyda hi.
Gan bwy gawsoch chi sws orau eich bywyd?
Dyfed Cynan fy nghariad. Fe wnaethon ni gwrdd lawr y Bae yn cynnal nosweithi ‘Noson yng Nghymru’ i ymwelwyr o bob cwr o’r byd.
Roedd Dyf yn MC yn y nosweithi ac roeddwn i yn canu.
A doedden ni ddim yn ffan mowr o’n gilydd ar y dechre – o gwbl!
Pa air neu ddywediad ydych chi’n gorddefnyddio?
‘Ga i de?’ Dw i yn yfed te drwy’r dydd, pob dydd.
Beth yw eich hoff wisg ffansi?
Gwisgo lan fel zebra ar gyfer zoom quiz yn y cyfnod Covid.
Pa ddigwyddiad wnaeth achosi’r mwya’ o embaras i chi?
Un o’r gigs cyntaf ers Covid oedd mynd i recordio Noson Lawen yng Nghaernarfon. A cyn fi fynd ar lwyfan, dywedodd y fenyw colur bo chi’n gallu gweld lein y magic knickers dan fy nillad i… y nicyrs yma sy’n sugno popeth mewn.
Felly roedd rhaid tynnu nhw bant ar ochr llwyfan… a tua hanner ffordd gartref i Gaerdydd, wnes i gofio bod y nicyrs dal ar ochr y llwyfan…
Beth yw’r parti gorau i chi fwynhau?
Ryden ni newydd fod i’r Maldives, achos mae fi a Dyf yn caru scuba diving.
A ges i sioc pan wnaeth e ofyn i fi briodi fe…
Beth sy’n eich cadw’n effro gyda’r nos?
Dysgu geiriau sioe newydd neu ar gyfer rhyw gyngerdd.
Beth yw eich hoff ddiod feddwol?
Rydw i yn hoff iawn o seidr adeg y Nadolig.
Sut Ddolig fydd hi eleni?
Mae’r holl deulu – fi, dwy chwaer a brawd – am fod gartref gyda mam a dad ar y fferm.
Mae gyda ni draddodiad ar noswyl Nadolig – plygain am hanner nos, wedyn Siôn Corn gartref.
A deffro am dri y bore, i odro am bedwar, a chael y fferm wedi sorto cyn cael yffarn o ginio mawr.
Bwyd mam yw’r bwyd gore yn y byd.
Rhannwch gyfrinach efo ni…
Dw i’n gwybod pob symudiad i ‘Proud Mary’ gan Tina Turner. A ble bynnag rwy’n clywed y gân – mewn siop, mewn parti, ble bynnag – mae yn rhaid gwneud y routine dawnsio.