Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn galw ar awdurdodau lleol i ddefnyddio cyllideb ychwanegol gan Lywodraeth Cymru “er budd eu trigolion”.
Fe gyhoeddodd y Llywodraeth ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 20) y byddai’r holl gynghorau sir yng Nghymru yn derbyn £5.1bn rhyngddyn nhw.
Mae hynny yn gynnydd o 9.4% i’w refeniw y llynedd, gyda £437m yn fwy yn cael ei ddarparu yn 2022-23.
Fe wnaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ddweud mai dyma oedd y “setliad gorau ers degawdau” ac y byddai’n “hwb i gymunedau a gwasanaethau lleol”.
Er bod y Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn croesawu’r arian ychwanegol, maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd gwario’r arian yn y llefydd cywir dros y flwyddyn nesaf.
‘Blynyddoedd o danariannu’
“Mae cynghorau wedi mynd y tu hwnt drwy gydol y pandemig i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn cael eu cynnal fel arfer,” meddai Sam Rowlands, llefarydd Llywodraeth Leol y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae hi ond yn iawn eu bod nhw’n cael digon o arian i barhau i weithredu’n effeithiol.
“Er ein bod yn croesawu’r cynnydd hyn, maen nhw’n dod ar ôl blynyddoedd o danariannu gan y llywodraeth Lafur, yn enwedig ar gyfer cynghorau gwledig a Gogledd Cymru.
“Efallai fy mod i ychydig yn sinigaidd, ond mae Llafur wedi cyhoeddi setliad llewyrchus gydag etholiadau llywodraeth leol ychydig fisoedd i ffwrdd ac mae yna hefyd gwestiynau o ddifrif pam does dim dadansoddiad o gyllid ar gyfer 2023 a thu hwnt.
“Beth maen nhw’n cuddio? Pe bai’n rhaid i fi fetio, byddwn i’n dweud eu bod nhw’n bwriadu torri cyllidebau eto ar ôl blwyddyn yr etholiad, gan olygu y bydd cynghorau’n cael eu gorfodi i gael gwared ar wasanaethau, gyda thrigolion yn wynebu biliau treth uwch o ganlyniad.
“Mae’n hanfodol bod cynghorau’n cynllunio ymlaen llaw gyda’r arian hwn a’i ddefnyddio er budd eu trigolion.
“Mae cynghorwyr sy’n cael eu hethol yn lleol yn gwybod beth sydd ei angen ar eu cymunedau fwyaf, p’un a yw hynny’n cyfyngu unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor mor agos at 0% â phosibl neu ddarparu lle gwych i fusnesau fuddsoddi a gwella gwasanaethau estynedig.”
Mewn ymateb i sylwadau’r Ceidwadwyr, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi cyhoeddi cyllid dangosol y tu hwnt i eleni.
“Cyhoeddwyd dyraniadau cyllid craidd dangosol ar gyfer 2023-24 a 2024-25 ar lefel Cymru fel rhan o’r setliad heddiw, sy’n rhoi sylfaen i gynghorau gynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddod a thu hwnt,” meddai.
“Buom yn gweithio’n agos gyda llywodraeth leol ar y mater hwn a gwrandawyd ar eu dewis i ddangos dyraniadau ar gyfer blynyddoedd 2 a 3 ar lefel Cymru, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio’r data diweddaraf i roi’r setliad cywir i lywodraeth leol.”
‘Croesawu’n fawr’
Mae’r Cynghorydd Emlyn Dole, arweinydd Grŵp Plaid Cymru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, yn dweud bod yr arian yn eu galluogi i weithredu ar bolisiau fel darparu cinio ysgol am ddim.
“Rwy’n croesawu’n fawr y setliad gan Lywodraeth Cymru, sydd yn un o’r gorau i ni ei weld ers tro byd,” meddai.
“Mae’n tystio i’r ddeialog reolaidd ac adeiladol i ni ei chael gyda gweinidogion ac Aelodau o’r Senedd yn ehangach, sydd yn sicr wedi cael ei werthfawrogi gan arweinwyr cyngor.
“Tra bod llawer yma i fanylu ymhellach, bydd y cyllid a gyhoeddwyd i gynghorau hefyd yn helpu i lansio rhai o’r polisïau beiddgar yn y Cytundeb Cydweithredu, gan gynnwys prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd.
“Edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu ffyrdd o weithio i gyrraedd yr uchelgeisiau hynny.”