Mae undebau llafur a mudiadau wedi mynegi “sioc” a “phryder” ynghylch penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno dirwyon posib ar gyfer gweithwyr sy’n gwrthod dilyn rheoliadau drwy beidio â gweithio o’u cartrefi.

Ers ddoe (dydd Llun, Rhagfyr 20), mae hi’n bosib i weithwyr sy’n gallu gweithio o’u cartrefi ond sy’n gwrthod gwneud hynny dderbyn dirwy o £60.

Yn ôl TUC Cymru, dydi Llywodraeth Cymru heb drafod y rheoliadau newydd gydag undebau llafur, ac maen nhw’n gobeithio y bydd y rheoliadau’n cael eu dileu.

Gall cyflogwyr nad ydyn nhw’n gadael i’w gweithwyr weithio o’u cartrefi dro ar ôl tro dderbyn dirwy o hyd at £10,000 hefyd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn annog pobol i weithio o’u cartrefi – pan fo hynny’n bosib – ers misoedd, ond mae bellach yn orfodol o dan reoliadau Covid-19 Cymru.

Dan y rheoliadau, mae hi’n ofynnol i fusnesau gymryd pob mesur rhesymol, gan gynnwys caniatáu neu ofyn i bobol weithio o’u cartrefi, er mwyn lleihau’r risg o ledaenu Covid-19.

‘Naïf’

Dywed Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, nad yw gweithiwr yn gyfrifol am ei weithle, ond mai cyfrifoldeb cyflogwr yw hynny.

“Mae hyn yn gosod cynsail sy’n peri pryder, fod cyfrifoldeb yn cael ei rannu rywsut, ac ar y gorau mae’n naïf,” meddai.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n dileu hyn ar unwaith i gael gwared ar y ddirwy i weithwyr.”

Mae TUC Cymru’n cyfarfod â Llywodraeth Cymru’n aml, ond er eu bod nhw wedi cwrdd drwy’r Cyngor Partneriaeth Cymdeithasol Cysgodol ddydd Iau (Rhagfyr 16), ni chafwyd trafodaethau gydag undebau llafur am y cynlluniau, a doedden nhw ddim wedi cael gwybod am y newidiadau i’r rheoliadau, meddai’r TUC.

‘Ecsbloetio’

Mae gan undeb GMB bryderon fod cyflogwyr “drwg” yn debygol o ecsbloetio’r rheol er mwyn eu hamddiffyn eu hunain rhag dirwyon drwy roi’r cyfrifoldeb ar weithwyr.

“Rydyn ni’n credu bod hwn yn taro’r tant anghywir,” meddai Kelly Andrews, uwch drefnydd yr undeb.

“Mae gennym ni bryderon enfawr y gallai hyn arwain at gyflogwyr drwg yn rhoi pwysau ar weithwyr i weithio o’u cartrefi heb gofnodion i’w holrhain a gosod unrhyw risg ariannol arnyn nhw.

“Y gweithwyr hyn yw’r rhai mwyaf agored i niwed a’r rhai sy’n gallu fforddio’r ergyd ariannol leiaf.

“Ond y gwir yw, bydd dirwy o £60 dros y Nadolig yn cael effaith ariannol sylweddol ar nifer o deuluoedd.”

Mae modd i bobol sy’n byw yng Nghymru ond sy’n gweithio yn Lloegr dderbyn dirwy dan y rheoliadau hefyd.