Mae gemau Caerdydd a Chasnewydd yn y Gynghrair Bêl-droed ar Ddydd San Steffan wedi cael eu gohirio.

Roedd disgwyl i’r Adar Gleision groesawu Coventry i dde Cymru, tra bod gan yr Alltudion gêm gartref hefyd yn erbyn Forest Green.

Daw hyn wrth i nifer o ddigwyddiadau chwaraeon fod mewn perygl o gael eu gohirio dros y Nadolig oherwydd cynnydd mewn achosion o Covid-19.

Cafodd y ddwy gêm eu gohirio ar ôl i achosion gael eu cofnodi ymhlith carfan a staff Caerdydd a Forest Green.

Roedd rhaid gohirio’r gemau rhwng clwb y brifddinas a Derby County, yn ogystal â gornest rhwng Abertawe a Queens Park Rangers dros y penwythnos.

Mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr wedi cadarnhau na fyddan nhw’n gohirio’r tymor dros dro, a bydd gemau yn parhau “cyn belled â’i bod hi’n ddiogel” eu cynnal, a bod clybiau’n gallu rhoi tîm ymlaen.

Cafodd gemau rygbi Cwpan y Pencampwyr rhwng timau o Ffrainc a Phrydain eu gohirio’r penwythnos diwethaf hefyd, wrth i reolau teithio dynhau rhwng y ddwy wlad.

Fe gafodd gêm y Scarlets yn erbyn Bordeaux Begles ei chanslo yn dilyn hynny, tra bod gêm y Gweilch yn erbyn Racing 92 eisoes wedi cael ei chanslo oherwydd achosion o Covid-19 yng ngharfan y tîm Cymreig.

Roedd hynny’n golygu bod canlyniad y gêm honno wedi cael ei gofnodi fel buddugoliaeth o 28-0 i Racing 92.

Cyhoeddiad

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford wneud cyhoeddiad heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 20) ynglŷn â chyflwyno cyfyngiadau mewn lleoliadau chwaraeon wrth ymateb i fygythiad yr amrywiolyn Omicron.

Gallai gemau rygbi Dydd San Steffan, gemau pêl-droed Cynghrair Cymru, yn ogystal â’r Grand National Cymreig gael eu gohirio neu eu canslo.

Does dim sicrwydd eto a fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud heddiw, ond mae’n debyg y gallai cyfyngiadau rhannol neu lwyr fod ar dorfeydd sy’n gwylio digwyddiadau.

Mae’r Scarlets wedi cydnabod mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol fod cyfyngiadau ar gynulleidfaoedd yn un opsiwn.

“Rydym yn cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill ynghylch Covid-19 a’r protocolau ar gyfer ein gêm URC yn erbyn y Gweilch ar Ddydd Calan,” meddai’r rhanbarth ar Twitter.

“Mae’r rhain yn debygol o effeithio Deiliaid Tocyn Tymor, prynwyr tocynnau gêm a lletygarwch.”