Bydd Michael Hogan, bowliwr cyflym tîm criced Morgannwg, yn ymddeol ar ddiwedd ei flwyddyn dysteb y flwyddyn nesaf.
Cafodd ei flwyddyn dysteb, oedd i fod i’w chynnal yn 2020, ei gohirio ddwywaith oherwydd Covid-19.
Ers ymuno â’r sir ar ôl symud o Awstralia yn 2012, mae e wedi bod yn un o’r hoelion wyth ymhlith y bowlwyr, gan chwarae 248 o weithiau ar draws yr holl gystadlaethau, gan gipio 589 o wicedi.
Fe oedd yr ail chwaraewr ar hugain yn hanes y clwb i gipio mwy na 400 o wicedi dosbarth cyntaf.
Yn 2017, cipiodd ei ffigurau gorau erioed, deg wiced am 87, yn erbyn Caint yng Nghaergaint, a’i ffigurau dosbarth cyntaf gorau erioed, saith am 92, yn erbyn Swydd Gaerloyw ym Mryste yn 2013.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yn 2013 a 2014, gan ennill ei gap sirol yn 2013.
Cafodd ei benodi’n gapten y clwb yn 2018, gan gipio 45 o wicedi yn y Bencampwriaeth y tymor hwnnw.
Yn 40 oed eleni, enillodd ei dlws cyntaf gyda’r sir wrth i Forgannwg godi Cwpan Royal London ar ôl ennill y gystadleuaeth 50 pelawd wrth guro Durham yn Trent Bridge.
‘Eithriadol o ddiolchgar’
“Dw i’n eithriadol o ddiolchgar i’r clwb am ohirio fy mlwyddyn dysteb ac am fy ngalluogi i ddal arni tan y flwyddyn nesaf,” meddai Michael Hogan.
“Bu’r ychydig flynyddoedd diwethaf yn anodd ar y cae ac oddi arno, ond roedd ennill Cwpan Royal London wedi gwneud y cyfan yn werthchweil.
“Roedd yr awyrgylch yn Trent Bridge yn hollol anhygoel a bydd y gefnogaeth gawson ni a’r golygfeydd ar y diwedd yn aros gyda fi am byth.
“Hoffwn ddiolch i’r clwb a’n haelodau am fod yn groesawgar dros ben i fi a’r teulu dros y ddeng mlynedd diwethaf.
“Mae Cymru wedi teimlo fel gartref a dw i’n edrych ymlaen at fwynhau tymor llwyddiannus arall gyda’r clwb gwych hwn y flwyddyn nesaf cyn i fi hongian fy esgidiau am byth.
“Dw i’n 40 nawr ac mae angen i fi dreulio mwy o amser gyda fy nheulu ifanc, tra mai nawr yw’r amser cywir mae’n debyg i Forgannwg edrych tua’r dyfodol a dechrau symud mewn cyfeiriad gwahanol.
“Dw i wedi bod yn eithriadol o lwcus gyda fy ngyrfa hir, ond mae amser yn symud yn ei flaen a gobeithio y gall rhywun ddod i mewn a chymryd fy lle.”
‘Ffefryn yn sicr ymhlith y cefnogwyr’
“Ar ôl yr hyn sydd, mae’n rhaid, wedi bod yn flynyddoedd rhwystredig dros ben i Hoges, rydyn ni wrth ein boddau y bydd e, o’r diwedd, yn cael cynnal ei flwyddyn dysteb y flwyddyn nesaf,” meddai Hugh Morris, Prif Weithredwr Morgannwg.
“Mae e wedi arwain ein hymosod am bron i ddeng mlynedd ac wedi bod yn ffefryn yn sicr ymhlith ein haelodau a’n cefnogwyr, a bydd e’n cael ei gofnodi fel un o’r chwaraewyr gorau yn ein hanes ac yn un o hoelion wyth go iawn Morgannwg.
“Mae Hoges yn haeddu’r anrhydedd hon yn fawr iawn, ac allwn ni ddim aros i’r aelodau a’r cefnogwyr ei gefnogi yn 2022 a dangos pa mor bwysig fu e i’r clwb hwn.
“Mae e’n chwaraewr gwych ac yn berson gwych, a bydd pawb yn gweld ei eisiau ym Morgannwg pan fydd e’n gadael ar ddiwedd y flwyddyn nesaf.”
‘Hir yw pob aros’
“Hir yw pob aros o ran y flwyddyn dysteb i Michael, ac mae’n ei haeddu’n fawr iawn ar ôl blynyddoedd o wasanaeth anhygoel i Forgannwg,” meddai’r Cyfarwyddwr Criced, Mark Wallace.
“Gobeithio y caiff ei chefnogi’n fawr gan bawb yng Nghymru a thu hwnt.
“Er ein bod ni’n gwybod y byddai’r diwrnod hwn yn dod yn y pen draw, mae’n chwerwfelys oherwydd mae e wedi bod yn gystal chwaraewr i ni ac mae e mor ddylanwadol, ond mae e’n sicr yn haeddu mynd ar ei delerau ei hun.
“Mae e wedi bod yn wych i Forgannwg ac fe fyddai’n sicr o’i le yn ein tîm gorau erioed, ac mae hynny’n dangos pa mor dda mae e wedi bod ers cyrraedd o Awstralia.
“Mae ganddo fe flwyddyn ar ôl gyda ni, ac o nabod Michael, bydd e’n awyddus i fynd allan ar nodyn uchel a does dim amheuaeth fod yna ddigon o wicedi ar ôl ynddo fe cyn iddo fe fynd oddi yma.”