Mae’r Cymro Geraint Thomas wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd newydd gyda thîm INEOS Grenadiers.

Ymunodd e â’r tîm adeg ei sefydlu yn 2010, gan ennill y Tour de France yn 2018.

Ond fe gafodd e flwyddyn anodd eleni, gyda gwrthdrawiadau yn y Tour ac yn y ras ffordd yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Mae e wedi treulio pythefnos mewn gwersyll ym Mallorca yn paratoi ar gyfer ei unfed tymor ar bymtheg yn gystadleuydd proffesiynol.

“Dw i wedi fy ysgogi’n fawr o hyd i weithio’n galed ac i ymarfer yn galed,” meddai’r Cymro 35 oed.

“Dyna dw i’n caru ei wneud.

“Dw i’n dal i fwynhau reidio fy meic yn fawr iawn, a gwthio fy hun hefyd.

“Pan allwch chi weld y llinell derfyn yn eich gyrfa broffesiynol mewn chwaraeon, rydych chi eisiau manteisio’n llawn ar hynny bob dydd a gwneud i’r cyfan gyfri.”