Mae’r chwe aelod o ranbarth Rygbi Caerdydd a brofodd yn bositif ar gyfer Covid-19 wedi cwblhau eu cyfnod hunanynysu.

Roedd y tri chwaraewr a thri aelod o staff wedi gorfod aros am ddeng niwrnod mewn gwesty dynodedig yn Ne Affrica cyn gallu dychwelyd i’r Deyrnas Unedig, lle roedden nhw’n wynebu cyfnod arall o ddeng niwrnod yn hunanynysu mewn gwesty tu allan i Gymru.

Daeth hynny yn sgil cyflwyno rheolau llymach ar deithwyr o Dde Affrica ym mis Tachwedd yn dilyn pryderon ynghylch yr amrywiolyn Omicron, sydd bellach yn lledaenu’n gyflym yng ngwledydd Prydain.

Gyda De Affrica yn wlad ‘rhestr goch’, roedd yr holl garfan a staff Rygbi Caerdydd a oedd wedi teithio i’r wlad i wynebu’r Lions a’r Stormers yn gorfod hunanynysu yn dilyn yr achosion positif.

Dechreuodd 42 aelod o’r rhanbarth wneud hynny ar ôl dychwelyd i Brydain ar ddydd Gwener, Rhagfyr 3, a golygodd hynny fod trwch o’u chwaraewyr yn absennol o gemau Cwpan y Pencampwyr yn erbyn Toulouse a’r Harlequins.

Cafodd llawer o chwaraewyr wrth gefn eu galw i mewn i chwarae’r gemau hynny, gan gynnwys chwaraewyr rhyngwladol wnaeth ddim teithio i Dde Affrica, ond colli dwywaith wnaethon nhw – o 39-7 yn erbyn Toulouse, ac o 43-17 yn erbyn yr Harlequins.

‘Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni’

Fe gyhoeddodd Rygbi Caerdydd fore heddiw (dydd Llun, Rhagfyr 20) fod y cyfnod cythryblus hwn yn eu hanes fwy neu lai wedi dod i ben.

“Gallwn gadarnhau bod yr holl chwaraewyr a staff a gafodd eu dal mewn cwarantin yn dilyn y trip i Dde Affrica fis diwethaf i gyd wedi dychwelyd i Gymru,” meddai’r rhanbarth.

“Bydd mwyafrif y garfan yn ailddechrau ymarfer ym Mharc yr Arfau heddiw. Diolch i bawb sydd wedi ein cefnogi ni yn ystod y cyfnod heriol hwn.”

Aildrefnu’r gemau

Mae trefnwyr cynghrair Pencampwriaeth Rygbi Unedig wedi datgelu y bydd y gyfres o gemau a oedd fod i gael eu cynnal yn Ne Affrica nawr yn cael eu chwarae’r un pryd â dwy gêm olaf y Chwe Gwlad ym mis Mawrth 2022.

Does dim cadarnhad eto a fydd rhaid i Gaerdydd a’r Scarlets ddychwelyd i Dde Affrica ar gyfer y gemau hynny, ond byddan nhw’n debygol o fod heb unrhyw chwaraewr sydd ar ddyletswydd ryngwladol.

Yn y cyfamser, mae’n edrych yn debygol y bydd Caerdydd yn gallu dechrau gyda thîm cryf yn erbyn y Scarlets ddydd Sul (Rhagfyr 26) felly.

Bydd rhanbarthau Cymru yn herio’i gilydd ar Ddydd San Steffan yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig, gyda’r Gweilch yn erbyn y Dreigiau yn fyw ar S4C am 17:00.

Llun o eisteddle efo'r Llythrennau Cardiff

Gweddill aelodau carfan Caerdydd yn dychwelyd o Dde Affrica

Ond mi fydd yn rhaid iddyn nhw ynysu am 10 diwrnod arall ar ôl dychwelyd i’r Deyrnas Unedig