Mae tîm criced Awstralia gam yn nes at gadw’r Lludw ar ôl iddyn nhw guro Lloegr o 275 o rediadau yn yr ail brawf o bump yn Adelaide.

Brwydrodd Jos Buttler yn galed i geisio achub yr ornest, ond fe gamodd ar ei wiced wrth i Awstralia fynd gam yn nes at y fuddugoliaeth bwysig.

Sgoriodd e 26 o rediadau oddi ar 207 o belenni – yr ail fatiad hiraf yn ei yrfa – ond roedd yr Awstraliaid yn rhy gryf yn y pen draw wrth i Jhye Richardson gipio pum wiced i roi pwysau ar Michael Neser, bowliwr tramor Morgannwg sy’n brwydro am ei le yn y tîm am weddill y gyfres ac a gipiodd ddwy wiced dros y ddau fatiad.

Daeth y gêm i ben pan gollodd Jimmy Anderson ei wiced, ond roedd yr ysgrifen ar y mur i Loegr wrth iddyn nhw ddechrau’r diwrnod olaf ar 82 am bedair.

Roedd yn ornest lwyddiannus i Marnus Labuschagne, tramorwr arall Morgannwg, oedd wedi sgorio 103 yn y batiad cyntaf – ei ganred cyntaf erioed yn y Lludw – a 51 yn yr ail wrth i Awstralia sgorio 473 am naw a 230 am naw gan gau’r naill fatiad a’r llall.

Roedd y nod o 468 yn mynd i fod yn dalcen caled i Loegr o ystyried eu perfformiad yn y prawf cyntaf hefyd, ac fe fyddan nhw dan bwysau yn y trydydd prawf yn yr MCG ym Melbourne wrth iddyn nhw geisio achub y gyfres.