Mae apêl i roi cymorth i Ifan Phillips, bachwr tîm rygbi’r Gweilch, ar ôl iddo fe golli ei goes wedi denu rhoddion o fwy na £58,000.

Mae Phillips, mab cyn-fachwr Castell-nedd Kevin Phillips, wedi mynd adref o’r ysbyty erbyn hyn, gan ddatgelu natur ei anafiadau mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol.

Fe fu mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ar Ragfyr 5, ac mae’n dweud iddo gael llawdriniaeth frys ond nad oedd modd achub ei goes o’r ben-glin i lawr.

Dywedodd y byddai’r arian yn helpu ei adferiad ac i gael coes newydd.

“Mae’r rheiny ohonoch chi sy’n fy nabod i’n gwybod pa mor heini ydw i fel unigolion, ac FE FYDDA i’n parhau i fod,” meddai.

“Dw i’n gwerthfawrogi eich holl roddion yn fawr iawn, felly diolch o waelod calon.”

Nod yr apêl yw codi £100,000 i’w gefnogi fe a’i deulu yn ystod ei adferiad.

Chwaraeodd e 40 o weithiau i’r Gweilch, a daeth ei ymddangosiad cyntaf yn y crys yn 2017.

Mae e hefyd wedi chwarae dros dîm dan 20 Cymru.