Mae Jonny Clayton drwodd i drydedd rownd Pencampwriaeth Byd Dartiau’r PDC, ar ôl curo Keane Barry o 3-2.

Doedd hi ddim yn fuddugoliaeth gyfforddus o bell ffordd i’r Cymro Cymraeg o Bontyberem, yn dilyn gornest o safon eithriadol yn erbyn y Gwyddel.

Roedd deg sgôr o fwy na chant rhwng y ddau chwaraewr i ennill gemau – does neb wedi cael mwy mewn gêm am y gorau i ennill tair set.

Cafodd Clayton wyth sgôr o 180, ac fe wnaeth e orffen gyda chyfartaledd tri dart o 103.70 yn yr ornest.

Ond roedd e ar ei hôl hi o 2-1 ar ôl dechrau gwael, cyn taro’n ôl a dangos ei safon yn y pen draw.

Dangosodd Keane Barry ei fod e’n un i’w wylio yn y dyfodol, gyda sawl sgôr swmpus – 104 i dorri tafliad Clayton yn y set gyntaf, ac yna 116, 136 a 121 wrth iddo fe fynd ar y blaen o 2-1 mewn setiau.

Yn yr ail set, methodd Clayton ag ymgais at y dwbl 20 ac fe aeth Barry yn ei flaen i ennill y drydedd set i’w gwneud hi’n 2-1, gyda Barry yn taflu 100 a 114.

Taflodd Barry 122 i ennill y drydedd set i’w gwneud hi’n 2-1 cyn i Clayton daro’n ôl gyda 100 i’w gwneud hi’n 2-2 mewn setiau.

Erbyn i Clayton sgorio 78 yn y gêm olaf i gipio’r fuddugoliaeth, roedd e wedi ennill chwe gêm yn olynol ar ôl i Barry golli’i ffordd, ac mae’n siŵr y bydd ei ochenaid o ryddhad yn yr Alexandra Palace i’w glywed ’nôl adref yng Nghwm Gwendraeth.

Ymateb

“Gêm wych, a phob clod i Keane,” meddai Jonny Clayton wrth Sky Sports.

“Chwarae teg iddo fe, wnaeth e ddim rhoi un cyfle i fi ymlacio.

“Roedd hi’n gêm wych, ac mae’n siŵr taw honna yw un o fy hoff gemau dw i wedi’u chwarae.

“Roedd angen i’r ddau ohonon ni daflu allan yn dda, dyna’r math o gêm oedd hi.

“Gwych! Hollol wych!

“Ar ddiwedd y dydd, rydyn ni i gyd fel chwaraewyr yn hela’r un tlws, ac mae’r flwyddyn hyd yn hyn wedi bod yn wych a gobeithio y galla i ei gorffen hi gyda hwn.

“Mae hi wedi bod yn braf cael brêc. Yn bersonol, dw i’n ddiog wrth ymarfer, felly dw i ddim wedi ymarfer llawer.

“Mae’n braf cael brêc jyst i gael canolbwyntio eto i gael mynd yn ôl i fwynhau’r hyn rydyn ni’n ei wneud.

“Byddwn i wrth fy modd yn ennill y tlws.

“Gallai’r ‘Ferret’ fod ar y tlws, felly gobeithio mai fy mlwyddyn i yw hi.”

“Dwlen i fynd ’nôl ar ôl y Nadolig gyda’r darian fawr!”

Alun Rhys Chivers

Jonny Clayton, y plastrwr o Bontyberem sy’n gobeithio dod yn bencampwr byd dartiau’r PDC ar Ionawr 3, yn siarad â golwg360