Gydag achosion Covid a chwaraewyr heb ei brechu yn creu hafoc llwyr o drefniadau’r penwythnos yn Lloegr, cafodd oddeutu hanner y gemau eu gohirio. Dim gêm i sawl Cymro felly ond fe gafodd ambell un gyfle i greu argraff.
*
Uwch Gynghrair Lloegr
Ymhlith y gemau i gael eu gohirio yn Uwch Gynghrair Lloegr yr oedd rhai Brentford, Burnley a Chaerlŷr gan olygu dim gêm i Fin Stevens, Wayne Hennessey, Connor Roberts a Danny Ward.
Aeth gêm Leeds yn erbyn Arsenal yn ei blaen nos Sadwrn, er efallai y byddai’n well gan gefnogwyr Leeds pe na fyddai wedi cael ei chwarae gan iddynt golli o bedair gôl i un! Daeth hynny yn dilyn colled drom arall o saith gôl i ddim yn erbyn Man City ganol wythnos. Dechreuodd Tyler Roberts y ddwy gêm ond roedd Dan James allan o’r gêm gydag Arsenal wedi i anaf ei orfodi oddi ar y cae ar hanner amser yn erbyn City.
Yn rhyfedd ddigon, fe lwyddodd y mwyafrif o gemau hynny a oedd yn cael eu darlledu’n fyw fynd yn eu blaenau. Gwnewch o hynny fel y fynnoch ond fe wnaeth olygu fod mwy o gemau wedi eu chwarae ddydd Sul na ddydd Sadwrn.
Ymweliad Lerpwl â Tottenham a oedd un o’r rheiny. Dechreuodd Ben Davies i Spurs ac roedd Joe Rodon ar y fainc. Felly hefyd Neco Williams i’r ymwelwyr. Gorffennodd y gêm gyffrous yn ddwy gôl yr un.
*
Y Bencampwriaeth
Yn ogystal ag yn Abertawe a Chaerdydd, cafodd chwaraewyr Cymru yng ngharfanau Derby, Luton, Millwall, Preston, QPR a Stoke eu heffeithio gan ohirio gemau yn y Bencampwriaeth y penwythnos hwn.
Mae tymor Brennan Johnson yn mynd o nerth i nerth wedi iddo sgorio’r gôl fuddugol i Nottingham Forest yn erbyn Hull ddydd Sadwrn, y Cymro’n rheoli’r bêl ar ei frest cyn gorffen yn gelfydd i ennill y gêm o ddwy gôl i un gyda deunaw munud yn weddill. Nid oedd Matthew Smith yng ngharfan Hull.
5⃣x⚽️
5⃣x?️@NFFC’s Brennan Johnson is a rising star! ?#EFLonQuest – Saturdays at 9pm #EFL #NFFC @nottm_forest @Nffcfamily @infromthetrentStream free on demand with @discoveryplusUK: https://t.co/5BVoLl5xim pic.twitter.com/FbEyxWwR41
— Quest (@QuestTV) December 18, 2021
Gellir fod wedi disgrifio’r gêm rhwng Blackpool a Peterborough fel cystadleuaeth i fod yn bedwerydd dewis rhwng y pyst i Gymru. Hynny yw, cyn i Chris Maxwell orfod methu’r gêm wedi i’r anaf a achosodd iddo fethu rhan helaeth o hanner cyntaf y tymor godi’i ben eto. Fe wnaeth Dave Cornell chwarae yn y pen arall gan ildio tair mewn colled o dair gôl i un.
Dechreuodd Neil Taylor i’w glwb newydd, Middlesbrough am y tro cyntaf wrth iddynt gael buddugoliaeth wych o gôl i ddim yn erbyn Bournemouth. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Mepham i’r gwrthwynebwyr.
Huddersfield a aeth â hi mewn gêm gyffrous yn erbyn Bristol City, yn ennill o dair gôl i ddwy gyda Sorba Thomas yn dechrau i’r Terriers. Nid oedd Andy King yng ngharfan Bristol City.
Dechreuodd y bachgen ifanc, Jordan James, i Birmingham eto’r penwythnos hwn ond colli’n drwm a fu hanes ei dîm yn Blackburn, pedair gôl i ddim y sgôr.
Nid yw Fulham Harry Wislon yn wynebu Sheffield United Rhys Norrington-Davies tan nos Lun ac ar hyn o bryd mae disgwyl i’r gêm honno fynd yn ei blaen.
*
Cynghreiriau is
Mae prif gynrychiolaeth Gymreig yr Adran Gyntaf yn Bolton, Crewe a Portsmouth a chafodd eu gemau hwy i gyd eu gohirio.
Ymhlith y gemau i oroesi yr oedd buddugoliaeth Plymouth o gôl i ddim yn erbyn Charlton. Chwaraeodd James Wilson y gêm gyfan yn yr amddiffyn i Plymouth a daeth Ryan Broom a Luke Jephcott i’r cae fel eilyddion hwyr. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Gunter i Charlton ac nid oedd Adam Matthews yn y garfan.
Mae rhediad gwych Nathan Broadhead o flaen gôl yn parhau wedi i’r blaenwr sydd ar fenthyg o Everton achub pwynt i Sunderland yn erbyn Ipswich. Sgoriodd ei bumed gôl mewn pum gêm i unioni’r sgôr yn un gôl yr un yn gynnar yn yr ail hanner. Chwaraeodd Lee Evans a Wes Burns y gêm gyfan i Ipswich.
Welshman Nathan Broadhead carried on his fine run of form with an equaliser for Sunderland at Ipswich ⚽
— BBC Sport Wales (@BBCSportWales) December 19, 2021
Roedd ymddangosiad prin i Billy Bodin wrth i Rydychen golli o ddwy gôl i dair yn erbyn Wigan. Eilydd hwyr a oedd Gwion Edwards i Wigan, sydd yn aros yn y ddau uchaf gyda’r fuddugoliaeth.
Yn yr Ail Adran, cadwodd Tom King lechen lân wrth i Salford guro Stevenage o gôl i ddim.
*
Yr Alban a thu hwnt
Goroesodd y rhan fwyaf o gemau yn yr Alban gyda Ben Woodburn yn dechrau ac yn chwarae 75 munud o fuddugoliaeth Hearts yn erbyn Dundee yn yr Uwch Gynghrair.
Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Alex Samuel i Ross County yn erbyn Livingston ac nid oedd Dylan Levitt yng ngharfan Dundee United ar gyfer eu gêm hwy yn erbyn Rangers oherwydd anaf.
Cafodd Ryan Hedges a Marley Watkins y penwythnos i ffwrdd gan nad oedd gan Aberdeen gêm oherwydd rownd derfynol Cwpan y Gynghrair.
Digwyddodd y gêm honno ddydd Sul gyda Hibs yn wynebu Celtic yn Hampden. Roedd Hibs ddwy gôl i un ar ei hôl hi cyn i Christian Doidge ddod i’r cae fel eilydd am y deg munud olaf. Nid oedd hynny’n ddigon o amser i’r Cymro greu argraff a cholli a fu eu hanes.
Cafodd gêm Dunfermline ym Mhencampwriaeth yr Alban ei gohirio, nid oherwydd Covid, ond o achos niwl trwm yn Rugby Park hanner ffordd trwy’r ail hanner. Roedd Owain Fôn Wiliams wedi dechrau’r gêm i’r ymwelwyr ac un gôl yr un a oedd y sgôr pan ddaeth y gêm i ben yn gynnar.
Mae rhediad sgorio gwych Rabbi Matondo yn parhau ym mhrif adran Gwlad Belg wedi iddo sgorio eto yn erbyn Union Saint-Gilloise ddydd Sadwrn. Dyblodd y Cymro fantais Cercle Brugge hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda’i bumed gôl mewn pum gêm. Yn anffodus serch hynny, tarodd y gwrthwynebwyr yn ôl yn yr ail hanner i’w hennill hi o dair gôl i ddwy.
??????? GOAL BY THE WELSHMAAAAAAAAAAAN! ??? #USGCer ?⚫️ 0️⃣-2️⃣! pic.twitter.com/uMA7vIt3iP
— Cercle Brugge (@cercleofficial) December 18, 2021
Yn yr Almaen, mae St. Pauli yn aros ar frig tabl y 2. Bundesliga er gwaethaf colled drom yn erbyn Holstein Kiel ddydd Sadwrn. Chwaraeodd James Lawrence y gêm gyfan yng nghanol yr amddiffyn wrth iddynt golli’n annisgwyl o dair gôl i ddim.
Nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Juventus yn Serie A nos Sadwrn ond fe ddechreuodd Ethan Ampadu ddydd Sul wrth i Venezia deithio i herio Sampdoria. Chwaraeodd ychydig dros awr yng nghanol y cae wrth i’w dîm gael gêm gyfartal gôl yr un.
Er i Gareth Bale ddychwelyd i fainc Real Madrid ar gyfer y gêm ddarbi yn erbyn Atletico y penwythnos diwethaf, roedd allan ohoni eto’r wythnos hon wedi iddo brofi’n bositif am Covid.