Mae buddugoliaeth dros Loegr o fewn cyrraedd tîm criced Awstralia ar drothwy diwrnod olaf ail brawf Cyfres y Lludw yn Adelaide.

Mae Lloegr yn cwrso 468 i ennill, ond maen nhw eisoes wedi llithro i 82 am bedair erbyn diwedd y pedwerydd diwrnod.

Ac roedd ergyd bellach i’r Saeson cyn diwedd y dydd, wrth i’r capten Joe Root gael ei ddal gan y wicedwr Alex Carey oddi ar fowlio Mitchell Starc.

Bydd yn rhaid i Loegr fodloni ar geisio achub gornest gyfartal drwy fatio am ddiwrnod cyfan heno (nos Lun, Rhagfyr 20) er mwyn osgoi mynd ar ei hôl hi o 2-0 yn y gyfres gyda thair gêm yn weddill.

Yr ychydig newyddion da i Loegr yw fod Ben Stokes wrth y llain, heb fod allan am dri oddi ar 40 o belenni, ac fe ddangosodd yn ystod prawf Headingley yng Nghyfres y Lludw yn Lloegr yn 2019 ei fod e’n gallu batio’n amddiffynnol er mwyn achub gornestau.

Fe wnaeth Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, helpu Awstralia i gyrraedd 473 am naw cyn cau eu batiad, gyda sgôr unigol o 103 – ei ganred cyntaf erioed yng Nghyfres y Lludw.

Daeth Michael Neser, chwaraewr tramor amryddawn Morgannwg, i’r llain yn niwedd y batiad a sgorio 35 ar ôl cael ei alw i’r tîm yn hwyr yn sgil absenoldeb y capten Pat Cummins.

Cafodd Lloegr eu bowlio allan wedyn am 236, gyda Neser yn cipio un wiced i waredu Haseeb Hameed, a Labuschagne yn cipio daliad i waredu Ollie Pope oddi ar fowlio’r troellwr Nathan Lyon.

Roedd hynny eisoes yn golygu mantais batiad cyntaf i Awstralia o 237, cyn i Labuschagne sgorio 51 yn yr ail fatiad, gyda chyfanswm o 230 am naw cyn cau’r batiad yn ddigon i osod nod swmpus i Loegr.